Our job at the Food Standards Agency (FSA) is to make sure food is safe and authentic. In the meat sector, that means carrying out robust inspections in abattoirs and meat processing businesses. This work protects the health of people and animals, supports animal welfare, and helps to maintain confidence in British meat.
At our next FSA Board meeting, we will be discussing the future of financial support for these inspections and considering recommendations following a significant programme of engagement with industry and a recent public consultation.
Over the past two years, we have worked extensively with businesses, trade bodies and other stakeholders to consider how taxpayer-funded discounts to meat inspection charges should operate in future.
The current arrangements provide financial support to businesses across the sector, but the evidence gathered through consultation suggests support should be more closely targeted at smaller abattoirs, where regulatory costs can be a greater burden.
Smaller abattoirs often play an important role in rural economies, supporting local food production and providing services that are valued by farmers, producers and consumers.
The proposals that the FSA Board will discuss are intended to ensure that taxpayers’ money is used in a way that delivers these wider benefits to the food system and the economy, while continuing to support food safety and consumer confidence. You can read more on these proposals in the Board paper.
Inspection charges remain a concern for many businesses, and we understand the pressure they're under from increasing costs. That's why it's important that decisions about future support are informed by evidence, on-going consultation with the industry, and a clear understanding of the wider impact on the sector.
As a transparent regulator, we want those with an interest in this issue to have the opportunity to hear the Board's discussion first hand. Our Board meetings are held in public and you’re welcome to attend in person or join remotely, so you can follow the discussion and hear the Board's considerations directly.
The meeting is on Wednesday 16 September in Swansea. The agenda also includes a range of other important food issues including the future of food regulation, our annual science update, and the regulation of CBD products. You can register to attend or view online and read all of the Board papers.
Katie PettiferChief Executive of FSA
Pam rydyn ni’n trafod taliadau am arolygiadau cig yng nghyfarfod nesaf ein BwrddEin gwaith yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn ddilys. Yn y sector cig, mae hynny’n golygu cynnal arolygiadau cynhwysfawr mewn lladd-dai a busnesau prosesu cig. Mae’r gwaith hwn yn diogelu iechyd pobl ac anifeiliaid, yn cynorthwyo lles anifeiliaid, ac yn helpu i gynnal hyder mewn cig Prydeinig.
Yng nghyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB, byddwn ni’n trafod dyfodol cymorth ariannol ar gyfer yr arolygiadau hyn ac yn ystyried argymhellion yn dilyn rhaglen sylweddol o ymgysylltu â’r diwydiant ac ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi gweithio’n helaeth gyda busnesau, cyrff masnach a rhanddeiliaid eraill i ystyried sut y dylai gostyngiadau ar daliadau am arolygiadau cig, a ariennir gan drethdalwyr, weithredu yn y dyfodol.
Mae’r trefniadau presennol yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau ar draws y sector, ond mae’r dystiolaeth sydd wedi’i chasglu drwy’r ymgynghoriad yn awgrymu y dylen ni dargedu’r cymorth yn fwy penodol at ladd-dai llai o faint, gan fod costau rheoleiddiol yn gallu bod yn fwy o faich iddyn nhw.
Yn aml, mae lladd-dai llai o faint yn chwarae rhan bwysig mewn economïau gwledig, gan roi cymorth i waith cynhyrchu bwyd lleol a darparu gwasanaethau y mae ffermwyr, cynhyrchwyr a defnyddwyr yn eu gwerthfawrogi.
Bwriad y cynigion y bydd Bwrdd yr ASB yn eu trafod yw sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n cyflawni’r manteision ehangach hyn i’r system fwyd a’r economi, a hynny wrth barhau i gefnogi diogelwch bwyd a hyder defnyddwyr. Gallwch ddarllen rhagor am y cynigion hyn ym mhapur y Bwrdd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw.
Mae taliadau am arolygiadau’n dal i fod yn bryder i lawer o fusnesau, ac rydyn ni’n deall y pwysau maen nhw’n eu hwynebu wrth i gostau cynyddu. Dyna pam mae’n bwysig bod penderfyniadau am gymorth yn y dyfodol yn cael eu llywio gan dystiolaeth, yn ogystal ag ymgynghoriadau parhaus â’r diwydiant a dealltwriaeth glir o’r effaith ehangach ar y sector.
Fel rheoleiddiwr tryloyw, rydyn ni am i’r rhai sydd â diddordeb yn y mater hwn gael y cyfle i glywed trafodaeth y Bwrdd yn uniongyrchol. Caiff cyfarfodydd ein Bwrdd eu cynnal yn gyhoeddus ac mae croeso i chi ddod yn bersonol neu ymuno o bell, fel y gallwch chi ddilyn y drafodaeth a chlywed ystyriaethau’r Bwrdd yn uniongyrchol.
Bydd y cyfarfod ddydd Mercher, 16 Medi, yn Abertawe. Mae’r agenda hefyd yn cynnwys ystod o faterion eraill sy’n bwysig i fwyd, gan gynnwys y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’, ein diweddariad gwyddoniaeth blynyddol, a materion mewn perthynas â rheoleiddio cynhyrchion CBD. Gallwch gofrestru i ddod i’r cyfarfod neu ei wylio ar-lein a darllen holl bapurau’r Bwrdd.
Katie PettiferPrif Weithredwr yr ASB
seen at 16:36, 7 September in Food Standards Agency.