TGS


Creating an LPA - Frequently Asked Questions Part 2

[English] - [Cymraeg]

We receive hundreds of phone calls each week from people looking for help and information on a number of different things. Here’s part 2 of our most frequently asked questions to make your life a little easier when creating an LPA.

Q1. Are enduring powers of attorney still valid? If a person has an EPA made before 1 October 2007, either registered or unregistered, it can still be used. EPAs only allowed people to appoint Attorneys to make decisions about property and financial matters.

If someone has already made an EPA and still has capacity, they can either replace it with a new Property and Affairs LPA or can keep the existing EPA.

EPAs were replaced by LPAs on 1 October 2007.

Q2. Do I need to register an EPA? The Attorney is responsible for registering the EPA. This is because the EPA is only registered when the Attorney believes that the Donor is no longer able, or will soon no longer be able, to make their own decisions.

Before the document is registered you will need to notify the donor and at least 3 members of the donors family if possible. If they object to the registering of the EPA then it may not be possible to until all matters are resolved.

OPG does not require formal evidence that the person lacks capacity in order to register the EPA.

You can find out more about the registration process, notifying the right people and other common questions on EPA on our website. Go to gov.uk/OPG and search for enduring power of attorney.

Q3. Can I use blue ink on my LPA application? We scan our LPAs into an online system. Black ink is better recognised by the scanners and can transfer the information better. You can use blue ink if you don’t have a black pen available.

Q4. Should I tick or cross the box on my LPA application? As long as the mark you’re making is clear and within the box it doesn’t really matter whether you tick it or put a cross in it.

Q5. What is section 5 of a health and welfare LPA and why is it important? Section 5 is the life sustaining treatment page. You need to fill this in to confirm whether you want this sort of treatment or not, such as feeding tubes. You can’t put anything illegal in here such as assisted dying. It also includes information on Do Not Resuscitate and other medical treatments.

If this section isn’t completed in full, the LPA will be seen as invalid and a new form will need to be filled in.

Q6. Why can’t I change or amend an LPA if I find a mistake? If you make a mistake before you’ve signed the LPA you can correct it. Put a cross through the mistake and put the correction clearly next to it, the relevant people will need to sign and date the correction. Do not use correction fluid.

If you find anything after the donor has signed the document, it can no longer be changed, this is because when the donor signs the document, they are saying everything on it is accurate and true at the time of signing. If you change anything after this, it will make the LPA invalid.

If you’re using the online LPA tool it will prompt you to check all the information in each section and highlight errors made where possible. Once you’ve confirmed everything and the document is ready to print, you can no longer change the LPA, you will need to start again as you’ve confirmed the document is final.

Q7. I’ve created my LPA documents and have received two letters with different reference numbers. Why is this? If you have created a health and welfare LPA as well as a property and finance LPA you will have different reference numbers for each document. Both forms have lots of similar information so it may seem like a duplication, so we advise you check which reference number is for which form.

Q8. I have an LPA but have moved or my attorney has moved, can I update an address? You will need to get in touch and let us know your change of address.

To do this we will need details of your LPA such as a reference number, name of the donor and date of birth. This is so we can find your document on the system and update as needed.

You will also need to let third parties know, such as banks or utility companies that the address has changed. Do not change the LPA itself as this will invalidate it.

Q9. I’ve changed my name and it no longer matches the LPA documentation. Can I change this? Changes in name works in the same way as a change of address, however, supporting documentation is needed to prove the names change is legal and legitimate - evidence (e.g. original marriage certificate or deed poll) needs to be sent to us in the post.

Q10. Finally, what happens if I have further questions on filling in an LPA that haven’t been answered here? Go online at gov.uk/opg, we have guidance on filling in an LPA application there. If you have further questions you can contact us at customerservices@publicguardian.gov.uk or call us on 0300 456 0300

 

[English] - [Cymraeg]

Creu Atwrneiaeth Arhosol – Cwestiynau Cyffredin Rhan 2

Rydyn ni’n cael cannoedd o alwadau ffôn bob wythnos gan bobl sy’n chwilio am gymorth a gwybodaeth ynghylch llawer o wahanol bethau. Dyma’r ail ran o’n cwestiynau mwyaf cyffredin i wneud eich bywyd ychydig yn haws wrth greu atwrneiaeth arhosol.

C1. Ydy atwrniaethau parhaus yn dal yn ddilys? Os oes gan unigolyn atwrneiaethau barhaus a wnaed cyn 1 Hydref 2007, naill ai wedi'i chofrestru neu heb ei chofrestru, gellir ei defnyddio o hyd. Roedd atwrneiaethau barhaus dim ond yn caniatáu i bobl benodi Atwrneiod i wneud penderfyniadau am eiddo a materion ariannol.

Os oes rhywun eisoes wedi gwneud atwrneiaeth barhaus ac yn dal i feddu ar alluedd, gall naill ai ei disodli ag atwrneiaeth arhosol Eiddo a Materion Ariannol newydd, neu gadw’r atwrneiaeth barhaus bresennol.

Disodlwyd atwrneiaethau barhaus gan atwrneiaethau arhosol ar 1 Hydref 2007.

C2. Oes angen i mi gofrestru atwrneiaeth barhaus? Yr Atwrnai sy’n gyfrifol am gofrestru’r atwrneiaeth barhaus. Y rheswm dros hyn yw nad yw’r atwrneiaeth barhaus yn cael ei chofrestru nes bydd yr Atwrnai’n credu nad yw’r Rhoddwr yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun mwyach, neu na fydd yn gallu gwneud penderfyniadau o’r fath yn fuan.

Cyn i’r ddogfen gael ei chofrestru, bydd angen i chi roi gwybod i’r rhoddwr ac o leiaf 3 aelod o deulu’r rhoddwr os oes modd. Os byddant yn gwrthwynebu cofrestru’r atwrneiaeth barhaus, efallai na fydd modd gwneud hynny nes y bydd yr holl faterion wedi’u datrys.

Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn am dystiolaeth ffurfiol nad oes gan yr unigolyn alluedd er mwyn cofrestru’r atwrneiaeth barhaus.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses gofrestru, rhoi gwybod i'r bobl iawn a chwestiynau cyffredin eraill am atwrneiaeth barhaus ar ein gwefan. Ewch i gov.uk/OPG a chwilio am atwrneiaeth barhaus.

C3. Alla i ddefnyddio inc glas ar fy nghais am atwrneiaeth arhosol? Rydyn ni’n sganio ein atwrneiaethau arhosol i mewn i system ar-lein. Mae inc du yn cael ei adnabod yn well gan y sganwyr a gall drosglwyddo’r wybodaeth yn well. Gallwch ddefnyddio inc glas os nad oes gennych feiro ddu.

C4. Ddylwn i roi tic neu groes yn y blwch ar fy nghais am atwrneiaeth arhosol? Cyn belled â bod y marc rydych chi’n ei wneud yn glir ac o fewn y blwch, does dim ots a ydych chi’n rhoi tic neu groes ynddo.

C5. Beth yw adran 5 atwrneiaeth arhosol iechyd a lles a pham ei bod yn bwysig? Adran 5 yw’r dudalen triniaeth cynnal bywyd. Mae angen i chi lenwi hon i gadarnhau a ydych am gael y math hwn o driniaeth ai peidio, megis tiwbiau bwydo. Allwch chi ddim rhoi dim byd anghyfreithlon yma, fel cymorth i farw. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am orchmynion Peidio â Dadebru a thriniaethau meddygol eraill.

Os nad yw’r adran hon wedi’i llenwi’n llawn, bydd yr atwrneiaeth arhosol yn cael ei hystyried yn annilys a bydd angen llenwi ffurflen newydd.

C6. Pam na alla i newid na ddiwygio atwrneiaeth arhosol os bydda i’n sylwi ar gamgymeriad? Os byddwch yn gwneud camgymeriad cyn i chi lofnodi’r atwrneiaeth arhosol, gallwch ei gywiro. Rhowch groes drwy’r camgymeriad a rhoi’r cywiriad yn glir wrth ei ymyl. Bydd angen i’r bobl berthnasol lofnodi a dyddio’r cywiriad. Peidiwch â defnyddio hylif cywiro.

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw beth ar ôl i’r rhoddwr lofnodi’r ddogfen, ni ellir ei newid mwyach oherwydd pan fydd y rhoddwr yn llofnodi’r ddogfen, mae’n dweud bod popeth arni’n gywir ac yn wir adeg llofnodi. Os byddwch yn newid unrhyw beth ar ôl hyn, bydd yn gwneud yr atwrneiaeth arhosol yn annilys.

Os ydych chi’n defnyddio’r adnodd atwrneiaeth arhosol ar-lein, bydd yn eich annog i wirio’r holl wybodaeth ym mhob adran ac yn tynnu sylw at wallau sy’n cael eu gwneud pan fo hynny’n bosib. Ar ôl i chi gadarnhau popeth a bod y ddogfen yn barod i’w hargraffu, ni allwch newid yr atwrneiaeth arhosol mwyach. Bydd angen i chi ddechrau eto gan eich bod wedi cadarnhau bod y ddogfen yn derfynol.

C7. Rwyf wedi creu fy nogfennau atwrneiaeth arhosol ac wedi cael dau lythyr gyda chyfeirnodau gwahanol. Pam hynny? Os ydych wedi creu atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn ogystal ag atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol, bydd gennych gyfeirnodau gwahanol ar gyfer pob dogfen. Mae gan y ddwy ffurflen lawer o wybodaeth debyg felly gallai ymddangos fel dogfen ddyblyg, felly rydyn ni’n eich cynghori i wirio pa gyfeirnod sydd ar gyfer pa ffurflen.

C8. Mae gen i atwrneiaeth arhosol ond rwyf wedi symud neu mae fy atwrnai wedi symud, alla i ddiweddaru cyfeiriad? Bydd angen i chi gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni eich bod wedi newid eich cyfeiriad.

I wneud hyn bydd angen manylion eich atwrneiaeth arhosol arnom fel cyfeirnod, enw’r rhoddwr a’r dyddiad geni. Mae hyn er mwyn i ni allu dod o hyd i’ch dogfen ar y system a’i diweddaru yn ôl yr angen.

Bydd angen i chi roi gwybod i drydydd partïon bod y cyfeiriad wedi newid hefyd, fel banciau neu gwmnïau cyfleustodau. Peidiwch â newid yr atwrneiaeth arhosol ei hun gan y bydd hyn yn ei gwneud yn annilys.

C9. Rwyf wedi newid fy enw ac nid yw’n cyfateb mwyach i ddogfennau’r atwrneiaeth arhosol. Alla i newid hyn? Mae newid enw yn gweithio yn yr un ffordd â newid cyfeiriad, fodd bynnag mae angen dogfennau ategol i brofi bod y newid mewn enw yn gyfreithlon ac yn ddilys – bydd angen i chi anfon tystiolaeth (ee tystysgrif priodas wreiddiol neu weithred newid enw) atom drwy’r post.

C10. Yn olaf, beth alla i wneud os oes gennyf ragor o gwestiynau am lenwi atwrneiaeth arhosol nad ydynt wedi cael eu hateb yma? Ewch i gov.uk/opg. Mae canllawiau ar lenwi cais am atwrneiaeth arhosol yno. Os oes gennych ragor o gwestiynau, anfonwch neges e-bost i customerservices@publicguardian.gov.uk neu ffonio 0300 456 0300.

https://publicguardian.blog.gov.uk/2022/04/27/creating-an-lpa-frequently-asked-questions-part-2/

seen at 14:36, 12 August in Office of the Public Guardian.
Email this to a friend.