Meat inspections are vital to the UK's food system. Highly trained official vets and meat hygiene inspectors check the health of each animal and make sure the meat is safe to eat. They also protect animal welfare. This work allows the UK's meat industry to sell its products at home and export them abroad.
Last year we published a blog explaining why we charge for meat inspections, who pays and why we were reviewing the discounts on those charges. Since then, there have been important developments. This blog explains what has happened and what it means in practice.
What has happened?Meat industry representative bodies brought a judicial review against our approach to the 2025 to 2026 meat charging rate. The court found that we could not charge for some of the activities we had included, and we have applied for permission to appeal this decision.
We do not yet know whether permission will be granted. If it is granted, an outcome may not come until next year.
We must follow the judgment now. We cannot wait for the outcome of the appeal to take action. So we have put temporary charging arrangements in place.
We want to be as clear as we can be at this stage about what this means in practice, for businesses, for taxpayers, and for the vital work our official vets and meat hygiene inspectors do every day.
What does this mean for charges?The cost to the taxpayer of delivering official controls has not changed, yet the amount we can recover has fallen. There is no new government money to cover the difference.
We have in recent years offered businesses a taxpayer-funded discount on their charges, with the smallest businesses receiving a proportionately higher discount. There is now less public money available for this discount. As well as modifying charge rates we need to adjust how we provide taxpayer-funded discounts.
This financial year 2026 to 2027, no businesses will face materially increased bills and some will face lower invoices.
How are smaller businesses protected?As evidenced in our recent work on a reformed discount scheme, smaller abattoirs play a vital role in local food systems and face particular challenges. We aim to continue to support smaller abattoirs this year as part of our response to the judgment.
Will these new arrangements on meat charging change again or should the appeal be granted?These are interim arrangements, put in place because we have to comply with the judgment now, regardless of whether permission to appeal is granted.
If an appeal is granted and succeeds, charging arrangements may change again. We will update businesses and the public as soon as we know more, and will explain clearly what any further change means in practice.
Why is this taking time to respond?This is a complex issue and we wanted to make sure we got it right, including by taking proper legal and financial advice following the judgment, rather than rushing to a conclusion.
What happens now and next financial year?We've written to every business and met with industry representatives to explain what this means for the remainder of this financial year.
We’re still working through what the judgment means for next year’s bills. As a result of the judgment, we cannot guarantee any discounts next year at this stage.
While we continue to aim to support smaller operators if we can, we’re considering what this means for future discounts. We will meet industry again soon to discuss bills for 2027 to 2028.
What happens next with the wider reform of meat charging and how will small businesses be protected in the longer term?Our response to the judgment sits alongside wider reform of how meat inspection costs are shared between businesses and taxpayers.
We set out the proposed changes on meat charging at the FSA Board in September. That decision now rests with ministers.
We continue to support Defra, which leads on issues affecting small abattoirs. Many of the challenges faced by smaller operators are structural and commercial rather than regulatory.
While regulation is one factor in the operating environment, we remain committed to supporting smaller businesses wherever we can.
We will keep talking to trade bodies, businesses and other stakeholders and will provide further updates as the work develops.
Taliadau am arolygiadau cig: diweddariad ar newidiadau dros dro, yn dilyn dyfarniad y llysDr James Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Bwyd yr ASB
Mae arolygiadau cig yn hanfodol i system fwyd y DU. Mae milfeddygon swyddogol medrus iawn ac arolygwyr hylendid cig yn gwirio iechyd pob anifail ac yn sicrhau bod y cig yn ddiogel i’w fwyta. Maen nhw hefyd yn diogelu lles anifeiliaid. Mae’r gwaith hwn yn galluogi diwydiant cig y DU i werthu ei gynhyrchion gartref a’u hallforio dramor.
Y llynedd, gwnaethon ni gyhoeddi blog a oedd yn egluro pam rydyn ni’n codi tâl am arolygiadau cig, pwy sy’n talu, a pham roedden ni’n adolygu’r gostyngiadau ar y taliadau hynny. Ers hynny, mae datblygiadau pwysig wedi bod. Mae’r blog hwn yn esbonio beth sydd wedi digwydd a beth mae’n ei olygu’n ymarferol.
Beth sydd wedi digwydd?Gwnaeth cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant cig ddwyn adolygiad barnwrol yn erbyn ein dull o ymdrin â’r gyfradd codi tâl ar safleoedd cig ar gyfer 2025 i 2026. Gwnaeth y llys ganfod nad oedd modd i ni godi tâl am rai o’r gweithgareddau roedden ni wedi’u cynnwys, ac rydyn ni wedi gwneud cais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Nid ydyn ni’n gwybod eto a gawn ni ganiatâd ai peidio. Os cawn ganiatâd i apelio, efallai na ddaw canlyniad tan y flwyddyn nesaf.
Rhaid i ni ddilyn y dyfarniad nawr. Allwn ni ddim aros am ganlyniad yr apêl cyn gweithredu. Felly, rydyn ni wedi rhoi trefniadau dros dro ar waith.
Hoffen ni fod mor glir â phosib ar hyn o bryd ynghylch beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol – i fusnesau, i drethdalwyr, ac i’r gwaith hanfodol mae ein milfeddygon swyddogol a’n harolygwyr hylendid cig yn ei wneud bob dydd.
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer taliadau?Nid yw’r gost i’r trethdalwr o gynnal rheolaethau swyddogol wedi newid, ond mae’r swm y gallwn ni ei adennill wedi gostwng. Nid yw’r llywodraeth yn rhoi arian ychwanegol i dalu’r gwahaniaeth.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cynnig gostyngiad, a ariennir gan drethdalwyr, ar daliadau busnesau, gyda’r busnesau lleiaf yn derbyn y gostyngiad cyfrannol mwyaf. Erbyn hyn, mae llai o arian cyhoeddus ar gael ar gyfer y gostyngiad hwn.
Yn ogystal â newid cyfraddau’r taliadau, mae angen i ni addasu sut rydyn ni’n darparu gostyngiadau a ariennir gan drethdalwyr.
Y flwyddyn ariannol hon (2026/27), ni fydd unrhyw fusnesau’n wynebu biliau sy’n sylweddol uwch, a bydd rhai yn wynebu anfonebau is.
Sut mae busnesau llai yn cael eu diogelu?Fel y gwelir yn ein gwaith diweddar ar gynllun gostyngiadau diwygiedig, mae lladd-dai llai yn chwarae rhan hanfodol mewn systemau bwyd lleol ac yn wynebu heriau penodol. Ein nod yw parhau i gefnogi lladd-dai llai eleni fel rhan o’n hymateb i’r dyfarniad.
A fydd y trefniadau newydd hyn ar godi tâl ar safleoedd cig yn newid eto pe bai’r apêl yn cael ei chaniatáu?Trefniadau dros dro yw’r rhain sydd wedi’u rhoi ar waith oherwydd bod yn rhaid i ni gydymffurfio â’r dyfarniad nawr, ni waeth a gawn ni ganiatâd i apelio ai peidio.
Os caniateir apêl ac os bydd yn llwyddo, gallai’r trefniadau codi tâl newid eto. Byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau a’r cyhoedd cyn gynted ag y byddwn ni’n gwybod mwy, a byddwn ni’n ei gwneud hi’n glir beth mae unrhyw newid pellach yn ei olygu’n ymarferol.
Pam mae’n cymryd amser i ymateb?Mater cymhleth yw hwn, ac roedden ni am sicrhau ein bod ni’n delio ag ef yn iawn, gan gynnwys ceisio cyngor cyfreithiol ac ariannol priodol yn dilyn y dyfarniad, yn hytrach na rhuthro i gasgliad.
Beth sy’n digwydd nawr a’r flwyddyn ariannol nesaf?Rydyn ni wedi ysgrifennu at bob busnes ac wedi cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant i egluro beth mae hyn yn ei olygu am weddill y flwyddyn ariannol hon.
Rydyn ni’n dal i weithio ar beth mae’r dyfarniad yn ei olygu ar gyfer biliau’r flwyddyn nesaf. O ganlyniad i’r dyfarniad, allwn ni ddim gwarantu unrhyw ostyngiadau y flwyddyn nesaf ar hyn o bryd.
Er ein bod ni’n parhau i anelu at gefnogi gweithredwyr llai os gallwn, rydyn ni’n ystyried beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gostyngiadau yn y dyfodol. Byddwn ni’n cwrdd â’r diwydiant eto’n fuan i drafod biliau ar gyfer 2027 i 2028.
Beth sy’n digwydd nesaf gyda’r gwaith diwygio ehangach ar godi tâl ar safleoedd cig, a sut y bydd busnesau bach yn cael eu diogelu yn yr hirdymor?Mae ein hymateb i’r dyfarniad yn sefyll ochr yn ochr â gwaith diwygio ehangach ar sut y caiff costau arolygu cig eu rhannu rhwng busnesau a threthdalwyr.
Gwnaethon ni amlinellu’r newidiadau arfaethedig i godi tâl ar safleoedd cig yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Medi. Mae’r penderfyniad hwnnw bellach yn nwylo gweinidogion.
Rydyn ni’n parhau i gefnogi Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), sy’n arwain ar faterion sy’n effeithio ar ladd-dai bach. Mae llawer o’r heriau sy’n wynebu gweithredwyr llai yn rhai strwythurol a masnachol yn hytrach na rheoleiddiol.
Er bod rheoleiddio’n un ffactor yn yr amgylchedd gweithredu, rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i gefnogi busnesau llai pryd bynnag y gallwn.
Byddwn ni’n parhau i siarad â chyrff masnach, busnesau a rhanddeiliaid eraill, a byddwn ni’n darparu diweddariadau pellach wrth i’r gwaith ddatblygu.
seen at 14:54, 24 November in Food Standards Agency.