TGS


Food Crime Update 

Cymraeg

Trust in food isn’t something we can take for granted and one of the biggest threats to that trust is food crime. Sadly, there will always be individuals who are willing to risk confidence in British food for a quick profit, which is why the on-going work of the FSA’s National Food Crime Unit (NFCU) remains so essential. The past few months have shown just how active this fight continues to be. 

In Dudley, a joint operation with the local council and police partners uncovered an unapproved meat cutting plant, leading to four arrests and the removal of more four tonnes of illegal meat from the food chain. In another operation, involving multiple partners including the Greater Manchester and Staffordshire Police, and Stoke-on-Trent City Council, an investigation into illegal frozen food products has resulted in one arrest and the seizure of more than 33 tonnes of suspect stock across more than a hundred businesses.  

In Leicester, we worked alongside local authorities and the police to tackle the online sale of illegally prepared ‘smokies’, removing unsafe meat from circulation and making one arrest. Meanwhile, in Essex, our officers investigated suspected counterfeit wine worth more than half a million pounds. 

These cases span different regions, products, and criminal methods but they share a common thread. Food crime is never victimless. It puts public health at risk, defrauds the public, and undermines the honest businesses that play by the rules. Left unchecked, food crime erodes the confidence that underpins our entire food system. 

Protecting the public means staying one step ahead of those who seek to exploit the system for profit. That’s why we need to stay proactive and continue working closely with the police, local authorities, and other partners. 

If you would like to keep updated about the risks from food crime and share best practice on strengthening the industry’s response to it, you can subscribe to the NFCU’s news bulletin.  You can also report food crime to Food Crime Confidential, in full confidence, at gov.uk/food-crime/report or by calling 0800 028 1180. 

Katie PettiferChief Executive of FSA

Diweddariad ar droseddau bwyd

Nid yw ymddiriedaeth mewn bwyd yn rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ganiataol, ac un o’r bygythiadau mwyaf i’r ymddiriedaeth honno yw troseddau bwyd. Yn anffodus, bydd rhai bob amser yn ceisio manteisio ar y system er mwyn gwneud elw cyflym, hyd yn oed os yw hynny’n peryglu hyder y cyhoedd mewn bwyd, a dyna pam mae gwaith parhaus Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) mor hanfodol. Mae’r misoedd diwethaf wedi dangos bod y frwydr yn erbyn troseddau bwyd yn parhau i fod yn ddiddiwedd.

Yn Dudley, arweiniodd ymgyrch ar y cyd rhwng y cyngor lleol a phartneriaid yn yr heddlu at ddatgelu ffatri torri cig heb ei chymeradwyo. O ganlyniad, arestiwyd pedwar unigolyn a thynnwyd dros bedair tunnell o gig anghyfreithlon o’r gadwyn fwyd. Mewn ymgyrch arall a oedd yn cynnwys nifer o bartneriaid, gan gynnwys Heddlu Manceinion Fwyaf, Heddlu Swydd Stafford a Chyngor Dinas Stoke-on-Trent, mae ymchwiliad i gynhyrchion bwyd wedi’u rhewi a oedd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon wedi arwain at arestio unigolyn ac atafaelu dros 33 tunnell o stoc amheus o fwy na chant o fusnesau.

Yng Nghaerlŷr, buom yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a’r heddlu i fynd i’r afael â gwerthu ‘smokies’ ar-lein, sef cynnyrch anghyfreithlon yn y DU, gan arwain at arestio unigolyn a sicrhau bod cig anniogel yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad. Yn y cyfamser, yn Essex, cynhaliodd ein swyddogion ymchwiliad i win dan amheuaeth o fod yn ffug, a oedd werth dros hanner miliwn o bunnoedd. 

Er bod yr achosion hyn yn amrywio o ran lleoliad, y cynhyrchion dan sylw a’r dulliau troseddol a ddefnyddiwyd, mae un peth yn gyffredin rhyngddynt. Mae rhywun wastad yn dioddef yn sgil troseddau bwyd. Mae’n peryglu iechyd y cyhoedd, yn twyllo defnyddwyr, ac yn tanseilio’r busnesau gonest hynny sy’n dilyn y rheolau. Heb gamau i’w hatal, mae troseddau bwyd yn difetha’r hyder sy’n sail i’n system fwyd gyfan.

Mae diogelu’r cyhoedd yn golygu aros un cam ar y blaen i’r rhai sy’n ceisio camfanteisio ar y system er budd ariannol. Dyna pam mae angen i ni fod yn rhagweithiol a pharhau i weithio’n agos gyda’r heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau o droseddau bwyd a rhannu arferion gorau ar gryfhau ymateb y diwydiant iddynt, gallwch danysgrifio i fwletin newyddion yr NFCU. Gallwch hefyd roi gwybod yn gyfrinachol am droseddau bwyd i’r llinell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol yn gov.uk/troseddau-bwyd/rhoi-gwybod neu drwy ffonio 0800 028 1180.

Katie PettiferPrif Weithredwr yr ASB

https://food.blog.gov.uk/2026/10/19/food-crime-update/

seen at 14:51, 19 October in Food Standards Agency.