The FSA's mission is "food you can trust". A key part of that mission is understanding how people think about food and food safety and using that insight to provide practical advice that helps consumers make informed choices.Our latest Consumer Insights Tracker, covering April 2025 to March 2026, provides valuable evidence about consumer attitudes and behaviours around food. The findings show that while confidence in food remains high, some food safety practices continue to pose risks. For example, when prompted, some respondents reported eating food past its use-by date, keeping leftovers for longer than recommended, or reheating leftovers multiple times. These findings are particularly important as we move through the summer months. Warmer weather, outdoor eating and barbecues can create additional opportunities for harmful bacteria to spread if food is not handled, cooked or stored safely. Foodborne illnesses such as Salmonella and Campylobacter remain a significant cause of illness each year, and simple food hygiene measures can help reduce the risk. That is why we recently launched our 'Stop. Think. Serve.' campaign, which encourages consumers to take a moment to consider food safety when preparing, cooking and serving food. The campaign focuses on practical steps people can take at home, whether they are cooking for family, hosting friends, packing a picnic or firing up the barbecue. Simple actions can make a real difference: cooking food thoroughly, avoiding cross-contamination, following use-by dates and keeping food chilled where needed. These habits help ensure that food can be enjoyed safely throughout the summer. Our message is straightforward: stop for a moment when preparing food, think about whether food is safe, and then serve with confidence. You can find advice and information on food hygiene at home on the FSA's pages on GOV.UK. The Consumer Insights Tracker helps us understand where extra guidance will be useful for people, while campaigns such as 'Stop. Think. Serve.’ enable us to turn that evidence into practical, accessible advice. By continuing to listen to consumers and respond to emerging risks, we can help people enjoy food safely and with confidence.
Katie PettiferChief Executive of FSA
Helpu pobl i fwynhau bwyd yn ddiogel yr haf hwnCenhadaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw “bwyd y gallwch ymddiried ynddo”. Rhan allweddol o’r genhadaeth honno yw deall sut mae pobl yn meddwl am fwyd a diogelwch bwyd, a defnyddio’r wybodaeth honno er mwyn rhoi cyngor ymarferol sy’n helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus.Mae’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr diweddaraf, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, yn darparu tystiolaeth werthfawr am agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Yn ôl y canfyddiadau, er bod hyder mewn bwyd yn parhau i fod yn uchel, mae rhai arferion diogelwch bwyd yn parhau i beri risgiau. Er enghraifft, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod nhw’n bwyta bwyd ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, yn cadw bwyd dros ben am gyfnod hirach na’r hyn a argymhellir, neu’n ailgynhesu bwyd dros ben sawl tro.Mae’r canfyddiadau hyn yn arbennig o bwysig yn ystod misoedd yr haf. Gall tywydd cynhesach, bwyta yn yr awyr agored a barbeciws greu cyfleoedd ychwanegol i facteria niweidiol ledaenu os nad yw’r bwyd yn cael ei drin, ei goginio a’i storio’n ddiogel. Mae afiechydon a gludir gan fwyd fel Salmonela a Campylobacter yn parhau i fod yn un o’r prif achosion o salwch bob blwyddyn, a gall mesurau hylendid bwyd syml helpu i leihau’r risg.Dyna pam gwnaethon ni lansio ein hymgyrch ‘Stopia | Meddylia | Gweina’ yn ddiweddar, sy’n annog defnyddwyr i bwyllo ac ystyried diogelwch bwyd wrth baratoi, coginio a gweini bwyd. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar gamau ymarferol y gall pobl eu cymryd gartref, p’un a ydyn nhw’n coginio i’r teulu, yn cael ffrindiau draw, yn pacio picnic neu’n tanio’r barbeciw.Gall camau syml wneud gwahaniaeth gwirioneddol: er enghraifft, coginio bwyd yn drylwyr, atal croeshalogi, dilyn dyddiadau ‘defnyddio erbyn’, a chadw bwyd yn oer lle bo angen. Mae’r arferion hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi’n gallu mwynhau bwyd yn ddiogel drwy gydol yr haf.Neges syml sydd gennym: stopiwch am eiliad wrth baratoi bwyd, meddyliwch a yw’r bwyd yn ddiogel, ac yna gweinwch y bwyd â hyder. Gallwch ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth am hylendid bwyd gartref ar dudalennau’r ASB ar GOV.UK.Mae’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr yn ein helpu i ddeall ar gyfer pa bynciau y bydd canllawiau ychwanegol yn ddefnyddiol i bobl, tra bo ymgyrchoedd fel ‘Stopia | Meddylia | Gweina’ yn ein galluogi i droi’r dystiolaeth honno’n gyngor ymarferol a hygyrch. Drwy barhau i wrando ar ddefnyddwyr ac ymateb i risgiau sy’n dod i’r amlwg, gallwn ni helpu pobl i fwynhau bwyd yn ddiogel ac yn hyderus.
Katie PettiferPrif Weithredwr yr ASB
https://food.blog.gov.uk/2026/07/31/helping-people-enjoy-food-safely-this-summer/
seen at 11:38, 31 July in Food Standards Agency.