TGS


UCD at HMCTS: How we’re strengthening user-centred design

[English] - [Cymraeg]

I work with teams across HMCTS to make sure our services are well-designed, helping to tackle complex challenges across the justice system. User-centred design helps us understand the needs of the people who use and deliver justice services, enabling us to create better experiences and more effective outcomes. In this blog, I want to share more about the role of User-Centred Design (UCD), why it’s so important to HMCTS, and how we’re investing in the capability and expertise needed to support our services in the years ahead.

At HMCTS, we design and deliver services that help people access justice. These services are used by a wide range of people, including the public, legal professionals, court and tribunal staff, and colleagues across the justice system. UCD helps us understand what people need, where they face problems, and how we can design services that are easier to use, more effective and better connected.

As our digital services continue to develop, we’re strengthening our in-house UCD capability so we can better support service teams, reduce reliance on suppliers, and keep design knowledge and expertise within HMCTS.

What does the UCD team do?

User-centred design helps us understand the people who use and deliver justice services. We work with service and product teams to identify problems, understand user needs and design solutions that work for everyone, including the public, legal professionals and court staff.

Understanding user needs is essential. Without this, people struggle to access justice, while legal professionals and court staff find it harder to do their jobs.

Why we’re user-centred at HMCTS

Justice services are complex. Users often move between different services, organisations and channels as they progress through a case. If we only focus on one part of that journey, we risk improving one experience while creating problems elsewhere.  That is why we use user-centred systems thinking and service design. These approaches help us understand the wider context in which services operate, so we can design solutions that meet user needs and work across the justice system.  This helps users to self-serve where appropriate, increases confidence in our services, reduces the need for people to contact HMCTS operations staff, and supports staff to do their work effectively.

What’s changing and why?

Following the conclusion of the reform programme, our digital services need more than maintenance support.

Legislative, policy and operational changes mean demand for UCD continues to grow. At the moment, this can make us reliant on suppliers. When supplier funding ends and people move on, we risk losing important institutional knowledge and design expertise.  

This isn’t just an HMCTS issue. It’s a cross-government challenge identified in the State of Digital Government Review, and it supports the wider ambition set out in the Blueprint for a Modern Digital Government to build digital skills and capability across the civil service. 

We’re building civil servant capability to address this across service design, interaction design and content design. This will help us:

support service and product teams with permanent UCD resource build capacity beyond one squad per jurisdiction improve resilience and flexibility tackle long-term strategic challenges take a more joined-up view of problems across the justice system and beyond  What happens next?

We will create 4 new senior designer roles in each design discipline. This includes one role to lead each profession and 3 roles to lead across service areas.  

We will also hire service-level designers to replace contractors working on change projects, with around 7 roles in each discipline. There will also be additional content design support for GOV.UK, helping us improve information architecture for citizens.  

We are aiming to fill most of these new roles by the end of 2026. Recruitment for strategic design roles is expected to begin from late July, with service-level designer roles expected to be advertised from late August or early September. We’ll share more on these recruitment plans with links to the adverts in my next blog in a few weeks.

[English] - [Cymraeg]

Dylunio sy'n Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr (UCD) yn GLlTEF:  Sut rydym yn cryfhau dylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr

Rwy'n gweithio gyda thimau ar draws GLlTEF i sicrhau bod ein gwasanaethau wedi eu dylunio'n dda, gan helpu i fynd i'r afael â heriau cymhleth ar draws y system gyfiawnder.  Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn ein helpu i ddeall anghenion pobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau cyfiawnder, gan ein galluogi i greu profiadau gwell a chanlyniadau mwy effeithiol.  Yn y blog hwn, rwyf eisiau rhannu mwy am rôl Dylunio sy'n Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr (UCD), pam ei fod yn bwysig i GLlTEF a sut rydym yn buddsoddi yn y gallu a'r arbenigedd sydd ei angen i gefnogi ein gwasanaethau yn y blynyddoedd i ddod. 

Yn GLlTEF, rydym yn dylunio a darparu gwasanaethau sy'n helpu pobl i gael mynediad at gyfiawnder. Defnyddir y gwasanaethau hyn gan ystod eang o bobl, gan gynnwys y cyhoedd, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol, staff y llys a thribiwnlys a chydweithwyr ar draws y system gyfiawnder.  Mae UCD yn ein helpu i ddeall beth mae pobl ei angen, ble maent yn wynebu problemau, a sut y gallwn ddylunio gwasanaethau sy'n haws i'w defnyddio, mwy effeithiol ac yn cysylltu'n well.

Wrth i'n gwasanaethau digidol barhau i ddatblygu, rydym yn cryfhau ein gallu UCD mewnol fel y gallwn gefnogi timau gwasanaeth yn well, dibynnu llai ar gyflenwyr a chadw gwybodaeth ac arbenigedd dylunio o fewn GLlTEF.

Beth mae'r tîm UCD yn ei wneud?

Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn ein helpu i ddeall y bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau cyfiawnder.   Rydym yn gweithio gyda thimau gwasanaeth a chynnyrch i nodi problemau, deall anghenion defnyddwyr a dylunio datrysiadau sy'n gweithio i bawb, gan gynnwys y cyhoedd, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a staff y llys. 

Mae deall anghenion defnyddwyr yn hanfodol. Heb hyn, mae pobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at gyfiawnder, tra bod gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a staff y llys yn ei chael hi'n anoddach i wneud eu gwaith. 

Pam ein bod yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr o fewn GLlTEF

Mae gwasanaethau cyfiawnder yn gymhleth. Mae defnyddwyr yn aml yn symud rhwng gwasanaethau gwahanol, sefydliadau a sianeli wrth iddynt symud ymlaen drwy achos.   Os ydym ond yn canolbwyntio ar un rhan o'r siwrnai honno, rydym yn peryglu gwella un profiad tra'n creu problemau mewn mannau eraill.    Dyna pam ein bod yn defnyddio systemau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a dyluniad ein gwasanaethau.  Mae'r dulliau hyn yn ein helpu i ddeall y cyd-destun ehangach y mae gwasanaethau yn gweithredu ynddynt, fel y gallwn ddylunio datrysiadau sy'n bodloni anghenion defnyddwyr a gweithio ar draws y system gyfiawnder.  Mae hyn yn helpu defnyddwyr i hunan-wasanaethu ble bo'n briodol, cynyddu hyder yn ein gwasanaethau, lleihau'r angen i bobl gysylltu â staff gweithredol GLlTEF a chefnogi staff i wneud eu gwaith yn effeithiol. 

Beth sy'n newid a pham?

Ar ôl cwblhau'r rhaglen ddiwygio, mae ein gwasanaethau digidol angen mwy na chefnogaeth cynnal a chadw.

Mae newidiadau cyfreithiol, polisi a gweithredol yn golygu bod y galw am UCD yn parhau i dyfu.   Ar hyn o bryd, mae hyn yn gallu ein gwneud yn ddibynnol ar gyflenwyr. Pan fydd cyllid cyflenwyr yn dod i ben a phobl yn symud ymlaen, rydym mewn perygl o golli gwybodaeth sefydliadol ac arbenigedd dylunio pwysig.    

Nid mater GLlTEF yn unig yw hwn.   Mae'n her trawslywodraethol a nodwyd yn yr Adolygiad o Gyflwr Llywodraeth Ddigidol, ac mae'n cefnogi'r uchelgais ehangach a nodwyd yn y Glasbrint ar gyfer Llywodraeth Ddigidol Fodern i ddatblygu sgiliau a gallu ar draws y gwasanaeth sifil. 

Rydym yn datblygu gallu gweision sifil i fynd i'r afael â hyn ar draws meysydd dylunio gwasanaeth, dylunio rhyngweithio a dylunio cynnwys. Bydd hyn yn ein helpu i:

gefnogi timau gwasanaeth a chynnyrch gydag adnodd UCD parhaol ddatblygu gallu y tu hwnt i un criw fesul awdurdodaeth gwella gwydnwch a hyblygrwydd mynd i'r afael â heriau strategol hirdymor cael agwedd mwy unedig tuag at broblemau ar draws y system gyfiawnder a thu hwnt   Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn creu 4 swydd uwch ddylunwyr newydd ym mhob disgyblaeth ddylunio. Mae hyn yn cynnwys un swydd i arwain pob proffesiwn a 3 swydd i arwain ar draws meysydd gwasanaeth.   

Byddwn hefyd yn llogi dylunwyr lefel gwasanaeth i ddisodli contractwyr sy'n gweithio ar brosiectau newid, gyda thua 7 swydd ym mhob disgyblaeth. Bydd yna hefyd gefnogaeth dylunio cynnwys ychwanegol ar gyfer GOV.UK, gan ein helpu i wella saernïaeth gwybodaeth i ddinasyddion. 

Rydym yn anelu i lenwi'r rhan fwyaf o'r swyddi newydd hyn erbyn diwedd 2026.  Disgwylir recriwtio ar gyfer swyddi dylunio strategol newydd o ddiwedd mis Gorffennaf, gyda swyddi dylunio lefel gwasanaeth yn cael eu hysbysebu o ddiwedd Awst neu ddechrau Medi.   Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth ar y cynlluniau recriwtio hyn gyda dolenni i'r hysbysebion yn fy blog nesaf mewn ychydig wythnosau.

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2026/07/16/ucd-at-hmcts-how-were-strengthening-user-centred-design/

seen at 11:57, 16 July in Inside HMCTS.