TGS


Food Fact Check: Feed additives and our health

Cymraeg

The additives that are fed to animals which later become our food, like meat, milk and eggs aren’t as high profile as food additives. But they play an important part of the food we eat.  

Feed additives are ingredients added to animal feed to improve its quality, support animal health, and enhance the safety or nutritional quality of animal-derived foods - like milk, meat and eggs.  

The Food Standards Agency (FSA) see lots of questions about whether feed additives are safe if they are present in the food we eat, and whether they are safe for animals and for those working with animals. 

‘Food Fact Check’ is the FSA’s new service to give clear in-depth answers to the questions you’ve been asking to help you check the facts behind claims you’ve seen online. 

Here we answer some of the questions being asked about feed additives and how they relate to our food. 

What are feed additives and why are they fed to animals? 

Feed additives include vitamins, minerals, enzymes, essential oils, microorganisms and other compounds. They can help animals digest food, absorb nutrients and stay healthy.

Some additives can also make farming more sustainable by reducing waste or greenhouse gas emissions. Others improve the quality of the feed itself, ensuring animals receive better nutrition. 

Are meat, eggs and dairy from animals that have consumed feed additives safe to eat?  

Yes. Meat, eggs and dairy products from animals fed authorised feed additives are safe to eat. 

In Great Britain, the FSA, together with independent experts on the Advisory Committee on Animal Feedingstuffs, reviews scientific evidence and only authorises additives that meet strict safety criteria.  

You can find out which feed additives are authorised for use in animal feed by visiting our GB Register of Authorised Feed Additives. For Northern Ireland, for can find a list of approved additives on the EU’s website

Are feed additives fed to animals still present in the food we eat?   

Most feed additives - including vitamins, minerals, enzymes, probiotics and methane-reducing compounds - are designed to act only within the animal’s digestive and metabolic system. They are metabolised or broken down before slaughter or milking and don’t remain in meat, eggs or milk by the time we eat it.   

In some cases, traces of additives can remain in food but are only permitted in very small amounts where they have been proven to be safe to consume. These limits (Maximum Residue Limits) are set under UK food safety laws. 

What tests are done to ensure feed additives are safe?  

Before any feed additive is authorised, the FSA conducts a rigorous safety assessment to ensure it is safe for humans, animals, handlers (such as farmers) and that it does not damage the environment. 

The assessment goes far beyond surface-level tests. In some cases, the additive is analysed all the way down to its DNA through a process called genome sequencing, which is one of the most precise ways to confirm its safety. 

Companies wanting to bring a new feed additive to market must arrange for independent laboratories to conduct multiple tests to understand levels of toxicity, carcinogenicity - whether it could cause cancer - and effects on reproductive systems in the short and long term. These tests are sometimes conducted at twice the recommend dose of an additive to make sure it is absolutely safe. An additive will not be authorised if it fails any of these tests. 

How are animal feeds monitored to ensure they are safe in the food we eat? What happens if there’s a safety concern?  

Once an animal feed additive is authorised, it is carefully monitored and controlled. If any feed is identified as unsafe, it is removed from use, and the FSA investigates what impact it has had on food safety.

If there are any concerns, the affected products will be taken off the market and, if required, an alert will be issued by the FSA to inform the public. 

Businesses must keep detailed records of distribution so affected batches can be traced across the feed and food chain. Food or feed safety breaches can lead to fines or prosecution.  

Are growth hormones used in feed?  

The use of growth hormones in animal feed in the UK has been banned since 1988, and imports of hormone-treated meat are also prohibited. 

Some countries do allow the use of growth hormones, like the USA. All meat coming into the UK from abroad requires certification and is subject to checks at the border to ensure all meat available to buy in the UK meets our standards. 

Are antibiotics used in feed?  

Antibiotics in feed have been banned since 2006. Antibiotics are only allowed in feed to treat sick animals under veterinary prescription to address medical concerns. 

Antibiotic use in UK livestock has fallen nearly 60% since 2014 thanks to concerted efforts to tackle antimicrobial resistance (AMR) which can occur when antibiotics are overused. 

Do feed additives harm animal welfare?  

No. A feed additive will only be authorised by the FSA if it is safe for animals to eat. These additives must provide a clear benefit such as to support better digestion or nutrient absorption. 

Feed additives can help improve the nutrition of livestock, reduce disease risk and promote overall well-being.  

Does the widespread use of feed additives harm the natural environment?  

Manufacturers of feed additives must demonstrate that there is minimal impact to the environment. The includes showing how long the additive takes to break down in the natural environment and whether it could affect soil, water or wildlife. 

There is potential for some feed additives to make food more sustainable. They can improve animal digestion and nutrient absorption, reducing waste and feed run-off which can pollute soil and waterways. Some new additives also help reduce greenhouse gas emissions.  

Are feed additives shown on food labels?  

No. Feed additives are not required by law to be shown on food labels, but some businesses may choose to.

Labelling is not required because feed additives do not leave significant traces in meat, milk or eggs, and this is checked as part of the authorisation process before additives are allowed on the market. 

You can find out which feed additives are authorised for use in animal feed by visiting our GB Register of Authorised Feed Additives or the EU list for Northern Ireland. 

Does organic labelling mean no feed additives were used? 

No. Seeing ‘organic’ on a food label does not mean no feed additives were used.

Organic standards allow certain natural or specifically authorised additives to support animal health and nutrition, but synthetic or chemically processed additives are banned.  

How do our rules compare internationally?  

Feed additive rules in the UK are among the strictest in the world. They are closely aligned with EU regulations and designed to protect animal welfare, the environment and consumer safety. 

Imported food and feed products into the UK must meet the FSA’s requirements.

Y Gwir am Fwyd: Ychwanegion bwyd anifeiliaid a’n hiechyd ni

O’u cymharu ag ychwanegion bwyd i bobl, nid oes cymaint o sylw i’r ychwanegion sy’n cael eu bwydo i’r anifeiliaid sydd wedyn yn dod yn fwyd i ni – fel cig, llaeth ac wyau. Ond mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta.

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn gynhwysion sy’n cael eu hychwanegu at fwyd anifeiliaid i wella ei ansawdd, i gefnogi iechyd anifeiliaid, ac i wella diogelwch neu nodwedd faethol bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid – fel cig, llaeth ac wyau.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweld llawer o gwestiynau ynghylch a yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn ddiogel os ydyn nhw’n bresennol yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, ac a ydyn nhw’n ddiogel i anifeiliaid ac i’r rhai sy’n gweithio gydag anifeiliaid.

‘Y Gwir am Fwyd’ yw gwasanaeth newydd yr ASB i roi atebion clir a manwl i’r cwestiynau rydych chi wedi bod yn eu gofyn i’ch helpu i wirio’r ffeithiau y tu ôl i honiadau rydych chi wedi’u gweld ar-lein.

Yma mae’r ASB yn ateb rhai o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn ynghylch ychwanegion bwyd anifeiliaid a sut maen nhw’n berthnasol i’n bwyd ni.

Beth yw ychwanegion bwyd anifeiliaid a pham maen nhw’n cael eu bwydo i anifeiliaid?

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cynnwys fitaminau, mwynau, ensymau, olewau hanfodol, micro-organebau a chyfansoddion eraill. Gallan nhw helpu anifeiliaid i dreulio bwyd, i amsugno maethynnau ac i aros yn iach.

Gall rhai ychwanegion hefyd wneud ffermio’n fwy cynaliadwy drwy leihau gwastraff neu allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae eraill yn gwella ansawdd y bwyd anifeiliaid ei hun, gan sicrhau bod anifeiliaid yn derbyn maethiad gwell.

A yw cig, wyau a chynnyrch llaeth o anifeiliaid sydd wedi bwyta ychwanegion bwyd anifeiliaid yn ddiogel i’w bwyta?

Ydyn. Mae cig, wyau a chynhyrchion llaeth o anifeiliaid sy’n cael eu bwydo ag ychwanegion bwyd awdurdodedig yn ddiogel i’w bwyta.

Ym Mhrydain Fawr, mae’r ASB, ynghyd ag arbenigwyr annibynnol ar y Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid, yn adolygu tystiolaeth wyddonol ac yn awdurdodi dim ond yr ychwanegion hynny sy’n bodloni meini prawf diogelwch llym.

Gallwch chi ddysgu pa ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid drwy edrych ar Gofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Awdurdodedig Prydain Fawr yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Ar gyfer Gogledd Iwerddon, gallwch chi ddod o hyd i restr o ychwanegion cymeradwy ar wefan yr UE.

A yw ychwanegion bwyd anifeiliaid sy’n cael eu bwydo i anifeiliaid yn dal i fod yn bresennol yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta?

Mae’r rhan fwyaf o ychwanegion bwyd anifeiliaid – gan gynnwys fitaminau, mwynau, ensymau, profiotigau a chyfansoddion sy’n lleihau methan – wedi’u cynllunio i weithredu o fewn system dreulio a metabolaidd yr anifail yn unig. Maen nhw’n cael eu metaboleiddio neu eu torri i lawr cyn godro neu ladd yr anifail, ac nid ydyn nhw’n aros mewn cig, wyau na llaeth erbyn i ni fwyta’r rhain.

Mewn rhai achosion, caiff y mymryn lleiaf o ychwanegion aros mewn bwyd, ond dim ond os profwyd eu bod yn ddiogel i bobl eu bwyta. Mae’r terfynau hyn (Terfynau Gweddillion Uchaf) wedi’u gosod o dan gyfreithiau diogelwch bwyd y DU.

Pa brofion sy’n cael eu cynnal i sicrhau bod ychwanegion bwyd anifeiliaid yn ddiogel?

Cyn awdurdodi unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid, mae’r ASB yn cynnal asesiad diogelwch trylwyr i sicrhau ei fod yn ddiogel i bobl, anifeiliaid a’r sawl sy’n eu trin (fel ffermwyr), ac nad yw’n achosi niwed i’r amgylchedd.

Mae’r asesiad yn mynd ymhell y tu hwnt i brofion arwynebol. Mewn rhai achosion, caiff yr ychwanegyn ei ddadansoddi hyd at ei DNA trwy broses o’r enw dilyniannu genom, sef un o’r ffyrdd mwyaf manwl gywir o gadarnhau ei ddiogelwch.

Rhaid i gwmnïau sydd am ddod ag ychwanegyn bwyd anifeiliaid newydd i’r farchnad drefnu i labordai annibynnol gynnal nifer o brofion i ddeall lefelau gwenwyndra, carsinogenigrwydd – hynny yw, p’un a allai achosi canser ai peidio – ac effeithiau ar systemau atgenhedlu yn y tymor byr a’r tymor hir. Weithiau mae ychwanegyn yn cael ei brofi gan ddefnyddio dwywaith y ddos a argymhellir, i wneud yn siŵr ei fod yn gwbl ddiogel. Ni fydd ychwanegyn yn cael ei awdurdodi os bydd yn methu unrhyw un o’r profion hyn.

Sut mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn ddiogel yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta? Beth sy’n digwydd os oes pryder diogelwch?

Unwaith y bydd ychwanegyn bwyd anifeiliaid wedi’i awdurdodi, caiff ei fonitro a’i reoli’n ofalus. Os caiff unrhyw fwyd anifeiliaid ei nodi’n anniogel, caiff ei dynnu’n ôl, a bydd yr ASB yn ymchwilio i’r effaith y mae wedi’i chael ar ddiogelwch bwyd i bobl.

Os oes unrhyw bryderon, bydd y cynhyrchion dan sylw’n cael eu tynnu oddi ar y farchnad ac, os oes angen, bydd yr ASB yn cyhoeddi rhybudd i roi gwybod i’r cyhoedd.

Rhaid i fusnesau gadw cofnodion dosbarthu manwl, fel bod y sypiau yr effeithir arnyn nhw’n gallu cael eu holrhain ar draws y gadwyn bwyd a bwyd anifeiliaid. Gall torri rheolau diogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid arwain at ddirwyon neu erlyniad.

A yw hormonau twf yn cael eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid?

Mae defnyddio hormonau twf mewn bwyd anifeiliaid yn y DU wedi’i wahardd ers 1988, ac mae mewnforio cig sydd wedi’i drin â hormonau hefyd wedi’i wahardd.

Mae rhai gwledydd yn caniatáu defnyddio hormonau twf, fel Unol Daleithiau America. Mae angen ardystio’r holl gig sy’n dod i’r DU o dramor, ac mae’n destun gwiriadau wrth y ffin i sicrhau bod unrhyw gig sydd ar gael i’w brynu yn y DU yn bodloni ein safonau.

A yw gwrthfiotigau’n cael eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid?

Mae gwrthfiotigau mewn bwyd anifeiliaid wedi’u gwahardd ers 2006. Yr unig adeg mae gwrthfiotigau’n gallu cael eu cynnwys mewn bwyd anifeiliaid yw er mwyn trin anifeiliaid sâl a mynd i’r afael â phryderon meddygol, a hynny drwy bresgripsiwn milfeddygol.

Mae’r defnydd o wrthfiotigau mewn da byw yn y DU wedi gostwng bron i 60% ers 2014, diolch i ymdrechion ar y cyd i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a all ddigwydd pan gaiff gwrthfiotigau eu gorddefnyddio.

A yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn niweidio lles anifeiliaid?

Nac ydyn. Ni fydd yr ASB yn awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid oni bai eu bod yn ddiogel i anifeiliaid eu bwyta. Rhaid i’r ychwanegion hyn roi budd clir, fel gwella prosesau treulio neu amsugno maethynnau.

Gall ychwanegion bwyd anifeiliaid helpu i wella maethiad da byw, lleihau’r risg o glefydau, a hyrwyddo lles cyffredinol.

A yw’r defnydd eang o ychwanegion bwyd anifeiliaid yn niweidio’r amgylchedd naturiol?

Rhaid i weithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd anifeiliaid ddangos bod yr effaith amgylcheddol yn fach iawn iawn. Mae hyn yn cynnwys egluro faint o amser y mae’n ei gymryd i’r ychwanegyn dorri i lawr yn yr amgylchedd naturiol, a dangos a allai’r ychwanegyn effeithio ar bridd, dŵr neu fywyd gwyllt.

Mae’n bosib y gallai rhai ychwanegion bwyd anifeiliaid wneud bwyd yn fwy cynaliadwy. Gallan nhw wella system dreulio’r anifail a’r broses o amsugno maethynnau, gan leihau gwastraff a dŵr ffo (‘run-off’) bwyd anifeiliaid a all lygru pridd a dyfrffyrdd. Mae rhai ychwanegion newydd hefyd yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

A yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael eu nodi ar labeli bwyd?

Nac ydyn. Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ychwanegion bwyd anifeiliaid gael eu nodi ar labeli bwyd, ond efallai bydd rhai busnesau’n dewis gwneud hynny.

Nid oes angen labelu ychwanegion bwyd anifeiliaid gan nad ydyn nhw’n gadael olion sylweddol mewn cig, llaeth nac wyau. Caiff hyn ei wirio fel rhan o’r broses awdurdodi ychwanegion cyn eu rhoi ar y farchnad.

Gallwch chi ddysgu pa ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid drwy edrych ar Gofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Awdurdodedig Prydain Fawr yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu restr yr UE ar gyfer Gogledd Iwerddon.

A yw labelu organig yn golygu na chafodd unrhyw ychwanegion bwyd anifeiliaid eu defnyddio?

Nac ydy. Nid yw gweld ‘organig’ ar label bwyd yn golygu na chafodd unrhyw ychwanegion bwyd anifeiliaid eu defnyddio yn y cynnyrch.

Mae safonau organig yn caniatáu rhai ychwanegion naturiol neu ychwanegion awdurdodedig penodol i gefnogi iechyd a maethiad anifeiliaid, ond mae ychwanegion synthetig neu ychwanegion wedi’u prosesu’n gemegol wedi’u gwahardd.

Sut mae ein rheolau ni’n cymharu’n rhyngwladol?

Mae rheolau’r DU o ran ychwanegion bwyd anifeiliaid ymhlith y rhai mwyaf llym yn y byd. Maen nhw wedi’u halinio’n agos â rheoliadau’r UE ac maen nhw wedi’u cynllunio i ddiogelu lles anifeiliaid, yr amgylchedd a diogelwch defnyddwyr.

Rhaid i gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio i’r DU fodloni gofynion yr ASB.

https://food.blog.gov.uk/2026/05/28/food-fact-check-feed-additives-and-our-health/

seen at 10:46, 28 May in Food Standards Agency.