TGS


Looking ahead: the next chapter for civil courts 

Rosemary Rand and Emma Petty, Service Owners for Civil at HMCTS, reflect on a year of progress in the civil courts — from faster digital services to preparations for landmark housing legislation — and look ahead to what the next 12 months will bring. 

What stands out for you as the greatest achievement in civil over the last year? 

Emma: For us both, it has to be the further progress we’ve made in moving civil courts away from paper-based working - it genuinely matters to everyone who uses and works within our services. 

Our digital services – Online Civil Money Claims and the Damages Claims Services - are now available as an end-to-end journey, meaning a claim can be managed entirely online.  Digital dashboards, available 24/7, are making a difference to how quickly the court can progress a case and how applicants can manage them. A million claims have now been processed through these digital services – a truly impressive milestone! 

We’re also continuing to improve these services. This month, we’ll enable more damages claims to be issued online, and we’re working to open both services to further groups - so more people than ever before can benefit from a fully digital service. 

Rosie: We’re also removing paper-based working internally.  New file sharing processes replace physical paper files with electronic, allowing documents to be stored, accessed and shared digitally across locations in real time. It means our staff can see case information directly and give service users real-time updates, rather than chasing a paper trail. 

What has made the biggest difference to the people who use our courts and tribunals services every day? 

Rosie: Alongside improving digital services, the introduction of mandatory mediation in small claims cases in 2024 has had a real, tangible impact. 

All parties to a defended money claim under £10,000 now attend a free, one-hour mediation appointment before their case progresses. The numbers tell their own story. In March 2024, before mediation was a requirement, 1,900 cases were mediated a month. This figure was more than 8,000 in March 2026, showing the continued growth of our small claims mediation service. 

Thousands more people are now resolving disputes earlier, without the cost and stress of a court hearing.  

How has working with partner organisations helped to improve our services for users?  

Emma: Partnership is essential to improve civil justice. We work with a wide range of user organisations, representing different types of users, and that collaboration shapes what we do. 

Feedback from solicitors and other legal professionals, businesses and everyday court users directly informs how we work.  

In March, we hosted a workshop about the civil guidance available to litigants who don’t have legal representation. We reviewed our existing guidance providing support and greater accessibility – and received some really invaluable insights to bolster the support we currently offer. 

Rosie: On possession, we’ve worked closely with the Ministry of Housing, Communities and Local Government as we prepared for the Renters' Rights Act. We’ve updated court guidance and forms for landlords and tenants, who will be impacted by the changes to the law, and delivered targeted support and training to make sure our staff are also ready. 

Getting this right matters enormously for landlords, tenants, and the courts that will be handling these cases. 

What are you most looking forward to over the next 12 months? 

Rosie: There’s a lot to be excited about. Work is progressing on a fully digital service for possession claims. It will have a similar look and feel to our existing digital services and eventually cover everything from issuing a claim through to a warrant.  

What challenges do you face in your jurisdiction and how will you meet them? 

Rosie: Performance in the county courts remains a challenge, although timeliness is improving. The median time it takes for small claims to go to trial was 36 weeks in the last three months of 2025 – more than 6 weeks faster than the same period in 2024 – but there’s more to do. 

Ending ‘no-fault’ evictions will shift how possession claims are brought and defended, and we expect to hold more hearings as a result. But we’ve planned for it — securing additional sitting days and administrative support and preparing courts carefully. 

How do you make sure the momentum of modernisation is not lost? 

Emma: Large reform programmes have a beginning and an end, but the work of improvement does not. We’ll continue to improve our services and to listen carefully to the people who use them. 

Two things help us to maintain that momentum - building improvement into how we operate day-to-day, rather than treating it as a separate project, and keeping conversations going with our partners so we can respond quickly should issues arise. 

Which areas of continued modernisation do you think will be of the biggest benefit to the people using our civil services? 

Emma: The improvements we’re bringing through modern, accessible digital services will have a big impact.  

We’ve secured funding to continue expanding out digital county court services, covering more case types and reducing paper processes further, with service design now underway and phased delivery to follow. 

Rosie: In terms of resolving disputes, it has to be the mediation work, because of what it means for real people. 

One solicitor told us mediation meant a case was resolved in a matter of weeks, allowing her client to move on with their life. 

That’s what modernisation is for. It’s not just about technology, but about what technology and modernisation can do for the people who rely on our services. That’s incredibly motivating. 

For more information about HMCTS services and the continuing modernisation of our courts and tribunals, visit GOV.UK/hmcts or follow updates on the Inside HMCTS blog page 

[English] - [Cymraeg]

Edrych ymlaen: y bennod nesaf i'r llysoedd sifil   

Rosemary Rand ac Emma Petty, Perchnogion Gwasanaeth ar gyfer y Llys Sifil yn GLlTEF, yn edrych ar flwyddyn o gynnydd yn y llysoedd sifil - o wasanaethau digidol cyflymach i baratoadau ar gyfer deddfwriaeth dai bwysig - ac edrych ymlaen i'r hyn sydd gan y 12 mis nesaf i'w gynnig.  

Beth sy'n sefyll allan i chi fel y cyflawniad mwyaf yn y llys sifil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? 

Emma: I'r ddwy ohonom, y cynnydd pellach rydym wedi'i wneud wrth symud y llysoedd sifil oddi wrth broses bapur - mae o wirioneddol o bwys i bawb sy'n defnyddio ac yn gweithio o fewn ein gwasanaethau.   

Mae ein gwasanaethau digidol - Hawliadau am Arian Sifil Ar-lein a'r Gwasanaethau Hawliadau Iawndal - nawr ar gael fel siwrnai o'r dechrau i'r diwedd, gan olygu y gall hawliad gael ei reoli'n llwyr ar-lein.  Mae dangosfyrddau digidol, ar gael 24/7 yn gwneud gwahaniaeth i pa mor gyflym y gall y llys symud achos yn ei flaen a sut y gall ymgeiswyr eu rheoli.  Mae miliwn o hawliadau wedi cael eu prosesu drwy'r gwasanaethau digidol hyn - carreg filltir anhygoel! 

Rydym hefyd yn parhau i wella'r gwasanaethau hyn.  Y mis hwn, byddwn yn galluogi i fwy o hawliadau iawndal gael eu cyflwyno ar-lein, ac rydym yn gweithio i agor y ddau wasanaeth i grwpiau pellach - felly gall mwy o bobl nag erioed o'r blaen gael budd o wasanaeth digidol llawn.   

Rosie:  Rydym hefyd yn cael gwared ar broses bapur yn fewnol. Mae prosesau rhannu ffeiliau yn disodli ffeiliau papur gyda dogfennau electronig, sy'n caniatau i ddogfennau gael eu storio, cael mynediad iddynt a'u rhannu'n ddigidol ar draws lleoliadau mewn amser real.   Mae'n golygu y gall ein staff weld gwybodaeth achos yn uniongyrchol a rhoi diweddariadau amser real i ddefnyddwyr, yn hytrach na mynd ar drywydd gwaith papur. 

Beth sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd bob dydd? 

Rosie:  Ynghyd â gwella gwasanaethau digidol, mae cyflwyno cyfryngu gorfodol mewn achosion hawliadau bychain yn 2024 wedi cael effaith gwirioneddol. 

Mae pob parti i hawliad arian wedi'i amddiffyn o dan £10,000 nawr yn mynychu apwyntiad cyfryngu un awr, am ddim cyn i'w hachos symud ymlaen.   Mae'r niferoedd yn adrodd eu stori eu hunain. Ym mis Mawrth 2024, cyn i gyfryngu fod yn ofyniad, roedd 1,900 achos wedi eu cyfryngu y mis.   Roedd y ffigwr hwn yn fwy nag 8,000 ym mis Mawrth 2026 yn dangos twf parhaus ein gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain.   Mae miloedd mwy o bobl nawr yn datrys anghydfod yn gynt, heb gost a straen gwrandawiad llys.     

Sut mae gweithio gyda sefydliadau partner wedi helpu i wella ein gwasanaethau i ddefnyddwyr?  

Emma: Mae partneriaeth yn hanfodol i wella cyfiawnder sifil. Rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau defnyddwyr, yn cynrychioli gwahanol fathau o ddefnyddwyr ac mae'r cydweithrediad hwnnw yn datblygu'r hyn rydym yn ei wneud.   

Mae adborth gan gyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, busnesau a defnyddwyr llys o ddydd i ddydd yn llywio sut rydym yn gweithio'n uniongyrchol.  Ym mis Mawrth, gwnaethom gynnal gweithdy am y canllawiau sifil ar gael i ymgyfreithwyr sydd heb gynrychiolydd cyfreithiol. Gwnaethom adolygu ein canllawiau presennol yn darparu cefnogaeth a mwy o hygyrchedd - a gwnaethom dderbyn cipolwg amhrisiadwy i ategu'r gefnogaeth a gynigir gennym ar hyn o bryd.  

Rosie:  Ar feddiannu, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wrth i ni baratoi ar gyfer y Ddeddf Hawliau Rhentwyr. Rydym wedi diweddaru canllawiau'r llys a ffurflenni i landlordiaid a thenantiaid, yr effeithir arnynt gan y newidiadau i'r gyfraith ac wedi darparu cefnogaeth a hyfforddiant a dargedwyd i sicrhau bod ein staff hefyd yn barod.   

Mae cael hyn yn gywir o bwys mawr i landlordiaid, tenantiaid a'r llysoedd fydd yn delio gyda'r achosion hyn.   

Beth ydych yn edrych ymlaen ato fwyaf dros y 12 mis nesaf? 

Rosie:  Mae yna lawer i fod yn gyffrous amdano. Mae gwaith yn datblygu ar wasanaeth cwbl ddigidol ar gyfer hawliadau meddiant  Bydd yn edrych ac yn teimlo'n debyg i'n gwasanaeth digidol presennol ac yn y pen draw yn cynnwys popeth o gyflwyno hawliad drwodd i warant.   

Pa heriau ydych yn eu hwynebu yn eich awdurdodaeth a sut y byddwch yn delio gyda nhw? 

Rosie:  Mae perfformiad yn y llysoedd sirol yn parhau'n her, er bod amseroldeb yn gwella.  Yr amser canolrifol yr oedd yn ei gymryd i hawliadau bychain fynd i dreial oedd 36 wythnos yn y tri mis diwethaf o 2025 - mwy na 6 wythnos yn gyflymach na'r un cyfnod yn 2024 - ond mae yna fwy i'w wneud.  

Bydd rhoi terfyn ar droi allan 'heb fai' yn symud sut mae hawliadau meddiannu yn cael eu cyflwyno a'u hamddiffyn ac rydym yn disgwyl cynnal mwy o wrandawiadau o ganlyniad.   Ond rydym wedi cynllunio ar ei gyfer - sicrhau dyddiau eistedd ychwanegol a chefnogaeth weinyddol a pharatoi llysoedd yn ofalus.   

Sut ydych yn sicrhau nad yw momentwm moderneiddio yn cael ei golli? 

Emma: Mae gan raglenni diwygio mawr ddechrau a diwedd, ond nid oes gan waith gwella. Byddwn yn parhau i wella ein gwasanaethau a gwrando'n ofalus ar y bobl sy'n eu defnyddio. 

Mae dau beth yn ein helpu i gynnal y momentwm hwnnw - cynnwys gwelliant o fewn sut yr ydym yn gweithio o ddydd i ddydd, yn hytrach na'i drin fel prosiect ar wahân, a pharhau sgyrsiau gyda'n partneriaid fel y gallwn ymateb yn sydyn os bydd materion yn codi.   

Pa feysydd moderneiddio parhaus ydych yn meddwl fydd fwyaf buddiol i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau sifil?   

Emma: Bydd y gwelliannau a gyflwynir gennym drwy wasanaethau digidol modern, hygyrch yn cael effaith mawr.    

Rydym wedi sicrhau cyllid i barhau i ymestyn ein gwasanaethau llys sirol digidol, gan gynnwys mwy o fathau o achosion a lleihau proses bapur ymhellach, gyda dylunio gwasanaeth nawr ar y gweill a darparu yn raddol i ddilyn. 

Rosie:  O ran datrys anghydfod, mae'n rhaid iddo fod y gwaith cyfryngu, oherwydd yr hyn mae'n ei olygu i bobl go iawn.   

Dywedodd un cyfreithiwr wrthym bod cyfryngu yn golygu bod achos wedi'i ddatrys mewn mater o wythnosau, gan ganiatau i'w chleient symud ymlaen gyda'u bywyd.   

Dyna yw diben moderneiddio.  Nid yw'n ymwneud â thechnoleg yn unig, ond yr hyn y gall technoleg a moderneiddio ei wneud i bobl sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau.    Mae hynny'n hynod ysgogol. 

I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau GLlTEF a'r moderneiddio parhaus o'n llysoedd a thribiwnlysoedd, ewch i  GOV.UK/hmcts  neu dilynwch y diweddariadau ar  wefan blog Inside HMCTS 

[English] - [Cymraeg]

 

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2026/05/19/looking-ahead-the-next-chapter-for-civil-courts/

seen at 15:03, 19 May in Inside HMCTS.