March 2026 marks one year since the completion of the Pathogen Surveillance in Agriculture, Food and Environment (PATH-SAFE) Programme - a landmark four-year, UK-wide programme which helped to shape the way the UK approaches food borne pathogen and antimicrobial resistance surveillance.
What was PATH-SAFE?Foodborne illness and antimicrobial resistance (AMR) present a major challenge to public health. The PATH-SAFE programme explored new ways to track and manage foodborne disease (FBD) and AMR across the agri-food system.
The overall aim was to change the way we conduct biosurveillance; real-time collection, analysis and interpretation of health-related data to detect, assess and respond to biological threats. This involved testing new ways to carry out biosurveillance that could be used more widely in the future.
PATH-SAFE adopted a ‘One Health’ approach - a collaborative way of working that connects human, environmental and animal health. By bringing together data and people from the food, agriculture and environmental sectors, it aimed to create a more integrated and responsive surveillance system.
The PATH-SAFE programme was led by the Food Standards Agency (FSA) and supported by several core partners:
Food Standards Scotland (FSS) Department of Environment, Food and Rural Affairs (Defra) Animal and Plant Health Agency (APHA) Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science (Cefas) Environment Agency (EA) Veterinary Medicines Directorate (VMD) Department of Health and Social Care (DHSC) UK Health Security Agency (UKHSA)The programme used £24m of funding from the HMT Shared Outcomes Fund (SOF) and a range of government and academic delivery partners, including FSA, Defra, FSS, Public Health Agency of Northern Ireland, Queen’s University Belfast, University of Bangor and the University of Oxford.
Across four distinct themes which included over 30 research projects, PATH-SAFE involved more than 65 organisations from government, academia and industry.
Workstreams included improving data sharing, understanding risks in the food system, testing new technologies and tracking AMR in the environment. More information about the workstreams can be found on the PATH-SAFE website.
The programme strengthened cross-government and cross-sector collaboration across the UK and enabled innovative research which wouldn’t have otherwise been possible.
What difference has PATH-SAFE made?PATH-SAFE has made a real difference to the way that the UK understands and tracks foodborne pathogens and AMR. Through increased sampling, generating new types of data, improving how data can be shared and developing new tools and methods, the programme has created a much clearer picture of where and how risks emerge across the food system.
These insights span a range of settings, from wastewater surveillance, AMR in shellfish and surveillance in abattoirs to sampling in care homes and have already informed real-world decisions.
Notably, outcomes from one PATH-SAFE project helped to inform the UK’s preparedness planning for potential risks linked to the 2024 Highly Pathogenic Avian Influenza outbreak in dairy cattle in the United States.
You can read more about it in our March 2025 PATH-SAFE blog and in the final evaluation report, published in June 2025.
Lasting research impactWe continue to see engagement and impact of the research carried out during PATH-SAFE since its closure.
Between 2021–2025 the 30 published papers had:
179 social media mentions 30 published papers 2,317 Scholastica views (on FSA’s scientific publishing platform) 489 Mendeley mentions (saves and references by researchers using a reference management tool) 210 Dimensions citations (citations in academic literature)Since the programme finished in March 2025, nine additional peer-reviewed publications have been released, covering topics such as wastewater-based surveillance for viruses, genomic approaches to the surveillance foodborne disease and antimicrobial resistance in food and the environment.
In the last 12 months, PATH-SAFE research has been mentioned 93 times in Mendeley mentions, 6 times on social media, had 52 Dimensions citations and 1,587 Scholastica views.
Find all of the papers on our PATH-SAFE programme webpage.
PATH-SAFE publications have been cited over 200 times and have reached 20 countries, with the biggest impact observed in Great Britain and the United States. They have been viewed over 1358 times in Great Britain, over 350 times in the US and France and over 600 times elsewhere in the world.
Impact on policy decisions worldwideIn 2025 The Netherlands Ministry of Agriculture, Fisheries, Food security and Nature referenced key PATH-SAFE literature to inform a new policy limiting the use of anti-fungal drugs in agriculture to ensure that they retain clinical efficiency, showing that PATH-SAFE has had a direct impact on policy decisions worldwide.
We have continued to monitor and evaluate the impact of this programme over 2025/26, and are engaging with a wide variety of stakeholders to map the ways in which PATH-SAFE has impacted their areas of work.
We are also conducting a technical synthesis review of scientific work conducted under the PATH-SAFE umbrella, which we aim to publish this Summer.
What’s next: The Food Surveillance Programme (FSP)Building on PATH-SAFE’s success, the FSA has launched the Food Surveillance Programme (FSP), which continues to strengthen surveillance by integrating PATH-SAFE outputs and conducting the research FSA needs to enhance biosurveillance in the UK.
The FSP is using several projects to investigate and apply cutting-edge technologies and diagnostics while fostering One Health partnerships across sectors and strengthening relationships built under PATH-SAFE.
So far, it has successfully piloted innovative surveillance tools, developed shared systems and networks for collaboration and begun to influence surveillance strategies and policies.
Looking ahead, we will continue to use a One Health approach to build on the success of PATH-SAFE and the FSP, strengthening surveillance and helping to better protect the food supply chain.
Read more about the PATH-SAFE programme:
PATH-SAFE Programme Food Surveillance Programme (FSP) Blog – PATH-SAFE: Blwyddyn yn ddiweddarachA ninnau’n nodi blwyddyn ers i’r rhaglen PATH‑SAFE ddod i ben, mae Dr Charlotte Smith, Rheolwr Prosiectau Gwyddonol yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yn archwilio cyflawniadau’r rhaglen, ei heffaith a’r ffordd y mae’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen yn llunio’r Rhaglen Gwyliadwriaeth Bwyd.
PATH-SAFE: Blwyddyn yn ddiweddarach
Mae mis Mawrth 2026 yn nodi blwyddyn ers cwblhau’r Rhaglen Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd (PATH-SAFE) – rhaglen nodedig a gynhaliwyd dros bedair blynedd ledled y DU. Helpodd y rhaglen i lunio’r ffordd y mae’r DU yn ymdrin â gwaith gwyliadwriaeth mewn perthynas â phathogenau a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Beth oedd PATH-SAFE?
Mae salwch a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn her fawr i iechyd y cyhoedd. Archwiliodd y rhaglen PATH-SAFE ffyrdd newydd o olrhain a rheoli clefydau a gludir gan fwyd (FBD) ac AMR ar draws y system bwyd-amaeth. Y nod cyffredinol oedd newid y ffordd rydym yn cynnal bio-wyliadwriaeth; casglu, dadansoddi a dehongli data sy’n gysylltiedig ag iechyd mewn amser real i ganfod, asesu ac ymateb i fygythiadau biolegol. Roedd hyn yn cynnwys profi ffyrdd newydd o gynnal bio-wyliadwriaeth y gellid eu defnyddio’n ehangach yn y dyfodol.
Mabwysiadodd PATH-SAFE ddull ‘Iechyd Cyfunol’ – ffordd gydweithredol o weithio sy’n cysylltu iechyd pobl, yr amgylchedd ac anifeiliaid. Drwy ddod â data a phobl o’r sectorau bwyd, amaethyddiaeth ac amgylcheddol ynghyd, ei nod oedd creu system wyliadwriaeth fwy integredig ac ymatebol. Arweiniwyd y rhaglen PATH-SAFE gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a chafodd ei chefnogi gan sawl partner craidd:
Safonau Bwyd yr Alban (FSS) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaeth (Cefas) Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA)Defnyddiodd y rhaglen y £24m o gyllid a gafodd o Gronfa Canlyniadau a Rennir (SOF) Trysorlys Ei Fawrhydi ac amrywiaeth o bartneriaid cyflawni llywodraethol ac academaidd, gan gynnwys yr ASB, Defra, FSS, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, Prifysgol Queen’s Belfast, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen.
Roedd PATH-SAFE yn cynnwys mwy na 65 o sefydliadau o’r llywodraeth, y byd academaidd a’r diwydiant, a hynny ar draws pedair thema wahanol a oedd yn cynnwys dros 30 o brosiectau ymchwil.. Roedd y ffrydiau gwaith yn cynnwys gwelliannau o ran rhannu data, deall risgiau yn y system fwyd, profi technolegau newydd ac olrhain AMR yn yr amgylchedd. Mae mwy o wybodaeth am y ffrydiau gwaith ar gael ar wefan PATH-SAFE.
Gwnaeth y rhaglen gryfhau cydweithio trawslywodraethol a thraws-sector ledled y DU, gan alluogi ymchwil arloesol na fyddai wedi bod yn bosib fel arall.
Testun amgen: Ffeithlun o effaith yr ymchwil sy’n dwyn y teitl “PATH-SAFE: Rhaglen Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd.” Rhwng 2021 a 2025, casglodd y rhaglen dros 8,300 o samplau newydd, cynhaliodd ddadansoddiad ychwanegol ar dros 2,500 o samplau arferol a dadansoddodd fwy na 10,000 o samplau wedi’u harchifo, gan gynhyrchu 18,000 o ddilyniannau genom wrth gydweithio â 15 o fentrau llywodraeth a bio-wyliadwriaeth. Cynhaliwyd y rhaglen ar draws pedair gwlad y DU a defnyddiodd ddull Iechyd Cyfunol (iechyd anifeiliaid, pobl a’r amgylchedd), gan ddarparu’r Llwyfan Data Genomig flaenllaw ochr yn ochr â 25 o offer, dulliau a modelau eraill. Arweiniwyd y rhaglen gan yr ASB ac roedd yn cynnwys 8 partner craidd o’r llywodraeth, 65 o bartneriaid cyflawni ar draws y llywodraeth, y diwydiant a’r byd academaidd a 200 o randdeiliaid. Cyflawnodd y rhaglen 30 o brosiectau, buddsoddodd £24 miliwn mewn ymchwil a ariennir, cynhaliodd 12 o ddigwyddiadau a gyrhaeddodd dros 1,200 o bobl, 150 o weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu, 180 o allbynnau a chyhoeddiadau, a chynhaliodd 18 o grwpiau ‘cymuned o ddiddordeb’ gan ddod â mwy nag 85 o aelodau ynghyd. Enwyd PATH-SAFE fel enghraifft o arfer orau a chynhyrchu data yn Strategaeth Diogelwch Biolegol y DU (BSS), y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (NAP) ac Adroddiad Gwyliadwriaeth Gwerthu ac Ymwrthedd i Wrthfiotigau Milfeddygol y DU (VARSS)
Pa wahaniaeth mae PATH-SAFE wedi’i wneud?
Mae PATH-SAFE wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd y mae’r DU yn deall ac yn olrhain pathogenau a gludir gan fwyd ac AMR. Drwy gynyddu samplu, cynhyrchu mathau newydd o ddata, gwella sut y gellir rhannu data a datblygu offer a dulliau newydd, mae’r rhaglen wedi creu darlun llawer cliriach o ble a sut mae risgiau’n dod i’r amlwg ar draws y system fwyd.
Mae’r canfyddiadau hyn yn cwmpasu ystod o leoliadau, o wyliadwriaeth dŵr gwastraff, AMR mewn pysgod cregyn a gwyliadwriaeth mewn lladd-dai i samplu mewn cartrefi gofal, ac maent eisoes wedi llywio penderfyniadau yn y byd go iawn. Mewn un achos nodedig, helpodd canlyniadau o un prosiect PATH-SAFE i lywio gwaith cynllunio’r DU mewn perthynas â’i pharodrwydd ar gyfer risgiau posib yn gysylltiedig â’r brigiad o achosion o ffliw adar pathogenig iawn yn 2024 mewn gwartheg godro yn yr Unol Daleithiau.
Gallwch ddarllen mwy amdano yn ein blog PATH-SAFE o fis Mawrth 2025 ac yn yr adroddiad gwerthuso terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025.
Effaith barhaol yr ymchwil
Er bod y rhaglen PATH-SAFE bellach wedi dod i ben, mae rhanddeiliaid yn ymgysylltu â hi o hyd ac rydym yn parhau i weld effaith yr ymchwil a gynhaliwyd. Rhwng 2021 a 2025, cafodd y 30 papur a gyhoeddwyd:
179 o grybwylliadau ar y cyfryngau cymdeithasol 30 o bapurau cyhoeddedig 2,317 o edrychiadau ar Scholastica (ar lwyfan cyhoeddi gwyddonol yr ASB) 489 o grybwylliadau Mendeley (achosion o ymchwilwyr yn cadw papurau ac yn gwneud cyfeiriadau atynt gan ddefnyddio teclyn rheoli cyfeiriadau) 210 o ddyfyniadau Dimensions (dyfyniadau mewn llenyddiaeth academaidd)Ers i’r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2025, mae naw cyhoeddiad ychwanegol wedi’u rhyddhau, a phob un wedi’i adolygu gan gymheiriaid. Mae’r rhain yn ymdrin â phynciau fel cadw gwyliadwriaeth ar gyfer feirysau yng nghyd-destun dŵr gwastraff, dulliau genomig o gadw gwyliadwriaeth ar gyfer clefydau a gludir gan fwyd, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn bwyd a’r amgylchedd.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae ymchwil PATH-SAFE wedi cael 93 o grybwylliadau Mendeley, 6 o grybwylliadau ar y cyfryngau cymdeithasol, 52 o ddyfyniadau Dimensions a 1,587 o edrychiadau ar Scholastica. Gallwch ddod o hyd i’r holl bapurau ar ein gwefan ar gyfer y rhaglen PATH-SAFE.
Testun amgen: Ffeithlun o effaith yr ymchwil sy’n dwyn y teitl “Effaith PATH-SAFE: Yn ystod ac ar ôl cau’r rhaglen.” Ar gyfer 2021 i 2025: 489 o grybwylliadau Mendeley, 179 o grybwylliadau ar y cyfryngau cymdeithasol, 210 o ddyfyniadau Dimensions, 2,317 o edrychiadau ar Scholastica, a 30 o bapurau wedi’u cyhoeddi. Yn ystod y 12 mis diwethaf: 93 o grybwylliadau Mendeley, 6 o grybwylliadau ar y cyfryngau cymdeithasol, 52 o ddyfyniadau Dimensions, 1,587 o edrychiadau ar Scholastica, a 9 o bapurau wedi’u cyhoeddi.
Mae cyhoeddiadau PATH-SAFE wedi cael eu dyfynnu dros 200 o weithiau ac wedi cyrraedd 20 o wledydd, gyda’r effaith fwyaf wedi’i gweld ym Mhrydain Fawr a’r Unol Daleithiau. Maent wedi cael eu gweld dros 1,358 o weithiau ym Mhrydain Fawr, dros 350 o weithiau yn yr Unol Daleithiau a Ffrainc, a thros 600 o weithiau mewn mannau eraill yn y byd.
Effaith ar benderfyniadau polisi ledled y byd
Yn 2025, cyfeiriodd Gweinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Diogelwch Bwyd a Natur yr Iseldiroedd at lenyddiaeth allweddol PATH-SAFE i lywio polisi newydd sy’n cyfyngu ar ddefnyddio cyffuriau gwrthffyngol mewn amaethyddiaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cadw effeithlonrwydd clinigol, gan ddangos bod PATH-SAFE wedi cael effaith uniongyrchol ar benderfyniadau polisi ledled y byd.
Rydym wedi parhau i fonitro a gwerthuso effaith y rhaglen hon yn ystod 2025-26, ac rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i fapio’r ffyrdd y mae PATH-SAFE wedi effeithio ar eu meysydd gwaith. Rydym hefyd yn cynnal adolygiad synthesis technegol o waith gwyddonol a gynhaliwyd o dan ymbarél PATH-SAFE, ac rydym yn anelu at ei gyhoeddi’r haf hwn.
Beth fydd yn digwydd nesaf? Y Rhaglen Gwyliadwriaeth Bwyd (FSP)
Gan adeiladu ar lwyddiant PATH-SAFE, mae’r ASB wedi lansio’r Rhaglen Gwyliadwriaeth Bwyd (FSP), sy’n parhau i gryfhau gwaith gwyliadwriaeth drwy integreiddio allbynnau PATH-SAFE a chynnal yr ymchwil sydd ei hangen ar yr ASB i wella bio-wyliadwriaeth yn y DU.
Mae’r FSP yn defnyddio sawl prosiect i ymchwilio i dechnolegau a diagnosteg arloesol a’u rhoi ar waith wrth feithrin partneriaethau Iechyd Cyfunol ar draws sectorau a chryfhau perthnasoedd a gafodd eu meithrin o dan PATH-SAFE.
Hyd yn hyn, mae wedi treialu offer gwyliadwriaeth arloesol yn llwyddiannus, wedi datblygu systemau a rhwydweithiau a rennir ar gyfer cydweithio, ac wedi dechrau dylanwadu ar strategaethau a pholisïau gwyliadwriaeth.
Gan edrych ymlaen, byddwn yn parhau i ddefnyddio dull Iechyd Cyfunol i adeiladu ar lwyddiant PATH-SAFE a’r FSP, gan gryfhau gwyliadwriaeth a helpu i ddiogelu’r gadwyn cyflenwi bwyd yn well.
[Call to action] Darllenwch fwy am y rhaglen PATH-SAFE:
PATH-SAFE: Newid y ffordd rydym yn ymdrin â gwyliadwriaeth – Asiantaeth Safonau Bwyd
Rhaglen Gwyliadwriaeth Bwyd (FSP) | Asiantaeth Safonau Bwyd
https://food.blog.gov.uk/2026/04/21/path-safe-one-year-on/
seen at 09:57, 29 April in Food Standards Agency.