TGS


Modernising services: Nick Goodwin’s reflections on change at HMCTS 

[English] - [Cymraeg]

As we mark a year since the formal conclusion of the Reform Programme, what has changed over the last twelve months?  

One of the things I'm most struck by is how much clearer our picture has become.

Our modern, centralised systems give us richer data than ever before — on case volumes, user satisfaction, and how different groups experience our services. That really matters because it means we can break down that feedback to give us far greater insight into whether we are truly delivering access to justice for everyone.

The picture we now have is comprehensive, detailed – and importantly, genuinely useful for driving improvement.

The numbers from across our services tell their own story. Since April 2025, 83% of all benefits appeals have been made online — that's 2.5 times higher than in 2019. People are choosing digital because it's faster and simpler. And our Online Civil Money Claims and Damages Claims services have just passed their millionth digital claim. That's a milestone I'm genuinely proud of.

For the people who use our courts and tribunals every day, what has made the biggest difference?  

Speed and simplicity. We never lose sight of the fact that behind every case is a real person, often navigating the justice system at one of the most difficult moments of their lives.

Take civil money claims: cases submitted online are now completed over three times faster than the old paper process — 11 weeks compared with 29. Probate grants took around 5 weeks to be issued after the application was submitted during July to September 2025, down around 2 weeks from the equivalent quarter in 2024.

For Employment Tribunal users, claims can now be submitted, responded to, and managed entirely online.

These aren't just statistics. They represent real time saved for real people when it matters most.

How has working with partner organisations helped to improve services?  

Partnership is central to how we work. The justice system only functions well when everyone in it works together — the judiciary, other government departments, legal professionals, and many others.

In the last year, we’ve worked closely with the Ministry of Housing, Communities and Local Government to implement the legislative impacts of the Leasehold and Freehold Reform Act and the Renters' Rights Bill on our possession service.

We've also worked with We Are Group to provide free digital support for people who struggle to access our online services — because modernisation must work for everyone, not just those who are already confident online.

What are you most excited about for the next 12 months? 

We have achieved a great deal and now have modern, resilient digital foundations across the justice system. But the work doesn't stop.

As we continue to plan for the year ahead, the future focus will be more about identifying which improvements will make the biggest practical difference to access to justice — and then pursuing those in a measured, prioritised way. There's a long list of priorities across each jurisdiction, and you'll hear more about them in blogs over the coming weeks. That's a really healthy place to be.

Technologies like AI are already part of the conversation. Our job is to apply them thoughtfully and in ways that genuinely serve the people who rely on our services.

What specific challenges does the organisation face, and how do you think they should be met?  

Demand is the central challenge. Our courts and tribunals are operating at near full capacity, and rising cases — particularly in the Crown Court — remain a serious concern. The volume of new work has exceeded what we can clear, and that has real consequences for victims, defendants, and families waiting for resolution. 

We are not standing still. Last month, the Deputy Prime Minister announced the highest ever funding settlement for courts and tribunals — £2.785 billion for 2026-27, up from £2.538 billion the previous year. Crucially, Crown Courts will be funded to run at unlimited sitting days next year, meaning if the system has capacity to hear a case, it will go ahead. Magistrates' courts will also be funded to their highest operational capacity. 

For the first time, firm funding commitments have been agreed for the next three years, giving the justice system the long-term stability it needs to plan ahead. A further £287 million will be invested in the fabric of the court estate itself. 

Alongside this, the independent review of the criminal courts by Sir Brian Leveson is informing reforms to help turn the tide on the outstanding cases. 

How do you make sure the momentum of modernisation is sustained rather than lost? 

Without question, by embedding change into how we work every day, rather than treating it as a one-off event.  We’ve created a new central change function to manage improvement in a structured, ongoing way — learning the lessons of previous reforms and applying them to how we approach future change. 

Our workforce has also changed.  When I visit our courts and speak with staff, the difference is noticeable. A few years ago, introducing new services often prompted anxiety. Today, the response is largely positive — people tell me it has made their working lives better. That cultural shift, from an organisation that once resisted change to one that embraces it, is something I'm genuinely proud of. 

The conversation with our stakeholders has also shifted. Early in the reform journey, many were understandably cautious or concerned about the pace and scale of digitisation. Now, the feedback we hear most often is that we should be moving faster. That's a remarkable change. It tells me that they have seen the benefits first-hand and want more of them. That's a great position to be in, and it's exactly the kind of momentum we intend to build on. 

Is there a particular aspect of the modernisation process you are most proud of? 

The accessibility work. Making services faster is important, but making sure no one is left behind matters just as much. Whether that's our Digital Support Service for those who can't access services online, supporting deaf jurors with British Sign Language interpreters, or our membership of the Hidden Disabilities Sunflower Network — this has been a programme built around people, in every sense.

The digital foundations are in place, the culture has shifted, and the commitment to access to justice — the principle at the heart of everything HMCTS does — remains as strong as ever.

We’ve been through an extraordinary period of change, delivered by extraordinary people, and, as I prepare to step down as Chief Executive, I look forward to seeing how HMCTS continues to evolve, delivering justice for everyone it serves.

For more information about HMCTS services and the continuing modernisation of our courts and tribunals, visit GOV.UK/hmcts or follow updates on the Inside HMCTS blog page.

[English] - [Cymraeg]

Moderneiddio gwasanaethau:  Myfyrdodau Nick Goodwin ar newid yn GLlTEF 

Wrth i ni nodi blwyddyn ers cwblhau'r Rhaglen Ddiwygio , beth sydd wedi newid dros y deuddeg mis diwethaf?

Un o'r pethau sydd wedi fy nharo fi mwyaf yw sut mae'r darlun wedi dod yn llawer cliriach erbyn hyn. Mae ein system fodern, wedi'i ganoli yn rhoi data gwell i ni nac erioed o'r blaen — data am niferoedd achosion, bodlonrwydd defnyddwyr, a sut mae grwpiau gwahanol yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae hynny'n bwysig iawn oherwydd mae'n golygu y gallwn dorri'r adborth hynny i lawr i roi llawer mwy o fewnwelediad i ni o ran p'un a ydym wir yn darparu mynediad at gyfiawnder i bawb.

Mae'r darlun sydd gennym nawr yn gynhwysfawr, yn fanwl, ac yn bwysig iawn, yn wirioneddol defnyddiol ar gyfer sbarduno gwelliant.

Mae'r niferoedd ar draws ein gwasanaethau yn dweud stori eu hunain. Ers Ebrill 2025, mae 83% o'r holl apeliadau wedi'u gwneud ar-lein - mae hynny 2.5 gwaith yn uwch nac yn 2019. Mae pobl yn dewis yr opsiwn digidol oherwydd mae'n gyflymach ac yn symlach. Ac mae ein gwasanaethau Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein a Hawliadau am Iawndal newydd gyrraedd y carreg filltir o brosesu miliwn o hawliadau. Mae'n garreg filltir rwyf wir yn falch ohoni.

Ar gyfer y bobl sy'n defnyddio ein llysoedd a thribiwnlysoedd bob dydd, beth sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf?

Cyflymder a symlrwydd. Dan ni byth yn anghofio'r ffaith bod person go iawn y tu ôl i bob achos, yn aml yn llywio'r system gyfiawnder ar un o'r adegau anoddaf yn eu bywydau.

Er enghraifft, hawliadau am arian yn y llys sifil: mae achosion sy'n cael eu cyflwyno ar-lein yn cael eu cwblhau tair gwaith yn gyflymach na'r hen broses papur — 11 wythnos o gymharu â 29 wythnos. Roedd grantiau profiant yn cymryd tua 5 wythnos i'w cyhoeddi ar ôl i gais gael ei gyflwyno yn y cyfnod o fis Gorffennaf i mis Medi 2025, 2 wythnos yn gyflymach na'r chwarter cyfatebol yn 2024.

Ar gyfer defnyddwyr y Tribiwnlys Cyflogaeth, gellir cyflwyno, ymateb i, a rheoli hawliadau'n gyfan gwbl ar-lein.

Nid ystadegau yn unig yw'r rhain. Maent yn cynrychioli amser wedi'i arbed i bobl go iawn ar adeg hollbwysig.

Sut mae gweithio gyda sefydliadau partner wedi helpu i wella gwasanaethau?

Mae gwaith partneriaeth yn ganolog i'r ffordd rydym yn gweithio. Mae'r system gyfiawnder ond yn gweithio'n dda pan fydd pawb sy'n gweithio ynddi yn gweithio gyda'i gilydd - y farnwriaeth, adrannau eraill y llywodraeth, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, a llawer mwy.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i weithredu effeithiau deddfwriaethol y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad a'r Bil Hawliau Rhentwyr yn ein gwasanaethau meddiannu.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda We Are Group i ddarparu cymorth digidol am ddim i bobl sy'n cael trafferth cael mynediad i'n gwasanaethau ar-lein — oherwydd rhaid i foderneiddio weithio i bawb, nid yn unig y rhai sydd eisoes yn hyderus ar-lein.

Beth fydd yn digwydd yn y 12 mis nesaf sy'n gwneud i chi deimlo'n gyffrous?  

Rydym wedi cyflawni llawer a bellach mae gennym sylfeini digidol modern a chadarn ar draws y system gyfiawnder. Ond nid yw'r gwaith yn stopio.

Wrth i ni barhau i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod, bydd y ffocws yn y dyfodol ar adnabod pa welliannau bydd yn gwneud y gwahaniaeth ymarferol mwyaf i fynediad at gyfiawnder - ac yna dilyn trywydd rheini mewn ffordd cymedrol ac sy'n cael eu blaenoriaethu'n briodol. Mae rhestr hir o flaenoriaethau ar draws pob awdurdodaeth, a byddwch yn clywed mwy amdanynt mewn blogiau yn yr wythnosau i ddod. Mae hynny'n lle iach iawn i fod.

Mae technolegau fel AI eisoes yn rhan o'r sgwrs. Ein gwaith ni yw eu rhoi ar waith yn feddylgar, ac mewn ffyrdd sydd wir yn gwasanaethu'r bobl sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau.

Pa heriau penodol y mae'r sefydliad yn eu hwynebu, a sut ydych yn meddwl y dylid ymdrin â nhw?   

Mae'r galw am ei gwasanaethau yn her allweddol. Mae ein llysoedd a'n tribiwnlysoedd yn gweithredu bron i'w capasiti llawn, ac mae cynnydd yn nifer yr achosion - yn enwedig yn Llys y Goron - yn parhau i fod yn bryder mawr. Mae maint y gwaith newydd wedi mynd tu hwnt i beth gallwn ei glirio, ac mae goblygiadau go iawn i ddioddefwyr, diffynyddion, a theuluoedd sy'n aros am ddatrysiad.  

Nid ydym yn sefyll yn yr unfan.  Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y setliad arian mwyaf erioed i'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd - £2.785 biliwn ar gyfer 2026-27, i fyny o £2.538 biliwn yn y flwyddyn flaenorol. Yn hollbwysig, bydd Llysoedd y Goron yn cael eu hariannu fel bod modd cynnal nifer diderfyn o ddyddiau eistedd. Bydd hyn yn golygu, os bydd gan y system y capasiti i wrando achos, bydd yn mynd yn ei flaen. Bydd llysoedd ynadon hefyd yn cael eu hariannu i'w capasiti gweithredol uchaf.  

Am y tro cyntaf, mae ymrwymiadau ariannu cadarn wedi'u cytuno arnynt ar gyfer y tair blynedd nesaf, gan roi'r sefydlogrwydd hir dymor y mae'r system gyfiawnder ei angen i gynllunio ymlaen llaw. Bydd £287 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystad y llysoedd.  

Ochr yn ochr â hyn, mae'r adolygiad annibynnol o'r llysoedd troseddol gan Syr Brian Leveson yn cyfarwyddo diwygiadau i helpu i fynd i'r afael â'r holl achosion sy'n aros i gael eu prosesu.  

Sut ydych yn sicrhau bod momentwm moderneiddio yn cael ei gynnal yn hytrach na chael ei golli?  

Heb os, trwy mewnosod newid ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, yn hytrach na'i drin fel digwyddiad un tro.   Rydym wedi creu nodwedd newid canolog i reoli gwelliannau mewn ffordd strwythuredig a pharhaus — gan ddysgu gwersi gan y diwygiadau blaenorol a'u rhoi ar waith wrth i ni ymdrin â newid yn y dyfodol.  

Mae ein gweithlu wedi newid hefyd.   Pan fyddaf yn ymweld â'n llysoedd a siarad gyda staff, mae'r gwahaniaeth yn amlwg. Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd gwasanaethau newydd yn aml yn peri pryder. Heddiw, mae'r ymateb yn gadarnhaol ar y cyfan  — mae pobl yn dweud wrthyf ei fod wedi gwella eu bywydau gwaith. Mae'r newid diwylliannol hynny, o sefydliad oedd yn arfer gwrthwynebu newid i un sy'n ei gofleidio, yn rhywbeth i wir fod yn falch ohono.

Mae'r sgwrs gyda'n rhanddeiliaid wedi newid hefyd. Yn gynnar yn y daith ddiwygio, roedd llawer o bobl yn wyliadwrus neu'n bryderus am gyflymder a graddfa'r broses digideiddio. Bellach, yr adborth a gawn fwyaf yw y dylem fod yn symud yn gyflymach.  Mae hynny'n newid sylweddol. Mae'n dweud i mi eu bod wedi gweld y buddion eu hunain ac eisiau mwy ohonynt.  Mae hynny'n sefyllfa wych i fod ynddi, a dyna'r union fath o fomentwm yr ydym yn bwriadu adeiladu arno.  

A oes agwedd benodol ar y broses foderneiddio yr ydych yn hynod falch ohoni?  

Y gwaith hygyrchedd. Mae gwneud gwasanaethau’n gyflymach yn bwysig, ond mae sicrhau bod neb yn cael eu gadael ar ôl yr un mor bwysig. P'un a yw hynny'n Gwasanaeth Cymorth Digidol i'r sawl sy'n methu cyrchu gwasanaethau ar-lein, cefnogi rheithwyr byddar gyda Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, neu ein haelodaeth yn y Rhwydwaith Blodau Haul i Anableddau Cudd - mae hon yn rhaglen sydd wedi'i hadeiladu o gwmpas pobl, ym mhob ffordd a sut.  

Mae'r sylfeini digidol mewn lle, mae'r diwylliant wedi newid, ac mae'r ymrwymiad i fynediad at gyfiawnder — yr egwyddor sy'n ganolog i bopeth y mae GLlTEF yn ei wneud - yn parhau i fod yr un mor gryf ag o'r blaen.   

Rydym wedi profi cyfnod o newid sylweddol, a gyflawnwyd gan bobl arbennig, ac, wrth i mi baratoi i gamu lawr fel Prif Weithredwr, rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd GLlTEF yn parhau i esblygu, gan ddarparu cyfiawnder i bawb mae'n ei wasanaethu.    

I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau GLlTEF a'r moderneiddio parhaus o'n llysoedd a thribiwnlysoedd, ewch i  GOV.UK/hmcts  neu dilynwch y diweddariadau ar wefan blog Inside HMCTS  

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2026/03/31/modernising-services-nick-goodwins-reflections-on-change-at-hmcts/

seen at 11:47, 31 March in Inside HMCTS.