The Judicial Appointments Commission (JAC) (external link) will be launching a selection exercise in March to recruit 55 salaried employment judges (some being in Wales).
The seminarThe Judicial Office is organising a pre-application seminar that will take place online via Microsoft Teams on Wednesday 4 March 2026 (5-6pm).
The seminar aims to help applicants be better prepared to make an application and to receive up-to-date guidance and advice on the JAC’s selection process. As well as the JAC, you will also hear from the President of the Employment Tribunal and a Regional Employment Judge.
Who should attend?Judicial office holders and practitioners from all backgrounds (including solicitors and Chartered Legal Executives) who have five years’ legal post qualification experience are welcome to attend.
Please note though, that while the Lord Chancellor has waived the need for prior judicial experience for these salaried roles, they expect that candidates will have current or previous substantial experience of employment law.
Candidates for posts in Wales need to have an understanding, or the ability to acquire the understanding, of the administration of justice in Wales, including legislation applicable to Wales and Welsh devolution arrangements. Candidates for posts in Wales will need to be fluent Welsh speakers who can conduct cases and deliver both oral and written judgments fully in the medium of Welsh.
Applications are particularly welcome from under-represented groups (women, ethnic minority candidates, disabled candidates).
See the judicial website for more information on the work of the Employment Tribunals.
Further informationCheck out the JAC’s future vacancies webpage (external link).
Sign up for alerts for this exercise (external link).
For any queries regarding the recruitment campaign/selection exercise please contact the JAC selection exercise team: 335sjet@judicialappointments.gov.uk
For any queries regarding the pre-application seminar please email: JudicialHROutreachEvents@judiciary.uk
Please note that although the Judicial Office will be running the pre-application seminar, the actual recruitment campaign is being done and led by the Judicial Appointments Commission.
You can register online at the Judicial Careers website (external link). Barnwyr Cyflogedig y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) 2026Bydd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol (JAC) yn lansio ymarfer dethol ym mis Mawrth i recriwtio 55 o farnwyr cyflogaeth cyflogedig (gyda rhai ohonynt yng Nghymru).
Y seminarMae’r Swyddfa Farnwrol yn trefnu seminar cyn ymgeisio a fydd yn cael ei gynnal ar-lein trwy Microsoft Teams ar ddydd Mercher y 4ydd o Fawrth 2026 (5-6pm).
Nod y seminor yw helpu ymgeiswyr i baratoi’n well ar gyfer gwneud cais ac i gael yr arweiniad a chyngor diweddaraf ar broses ddethol y JAC. Ynghyd â’r JAC, byddwch hefyd yn clywed gan Lywydd y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a Barnwr Cyflogaeth Rhanbarthol.
Pwy ddylai fynychu?Mae croeso i ddeiliaid swyddi barnwrol ac ymarferwyr o bob cefndir (gan gynnwys cyfreithwyr a Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig) sydd â phum mlynedd o brofiad ers cymhwyso yn y gyfraith, fynychu.
Dalier sylw, er bod yr Arglwydd Ganghellor wedi hepgor yr angen am brofiad barnwrol blaenorol ar gyfer y rolau cyflogedig hyn, mae’n disgwyl y bydd gan ymgeiswyr brofiad cyfredol neu flaenorol helaeth o’r gyfraith cyflogaeth.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru feddu ar ddealltwriaeth o sut gweinyddir cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru, neu’r gallu i feithrin y ddealltwriaeth hon. Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer swyddi yng Nghymru fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n gallu cynnal achosion a chyflwyno dyfarniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Croesewir ceisiadau yn enwedig gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli (menywod, ymgeiswyr o gefndir ethnig lleiafrifol, ymgeiswyr sydd ag anabledd).
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am waith y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth – Gwaith y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth – Barnwriaeth y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Gwybodaeth bellachDyma ddolen i’r dudalen JAC gyda’r wybodaeth am swyddi gwag yn y dyfodol, cliciwch yma
Cofrestrwch i gael hysbysiad am yr ymarfer hwn.
Cysylltwch â thîm ymarfer dethol y JAC gydag unrhyw ymholiadau ynghylch yr ymgyrch recriwtio/ymarfer dethol yn 335sjet@judicialappointments.gov.uk
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y seminar cyn ymgeisio, anfonwch e-bost i – JudicialHROutreachEvents@judiciary.uk
Dalier sylw, er bydd y Swyddfa Farnwrol yn cynnal y seminar cyn ymgeisio, mae’r ymgyrch recriwtio ei hun yn cael ei gynnal a’i arwain gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. I gofrestru, cliciwch yma: https://www.judicialcareers.judiciary.uk/civicrm/event/register/?id=204&reset=1
The post Salaried Judge of the Employment Tribunal (England & Wales) 2026 – pre-application seminar appeared first on Courts and Tribunals Judiciary.
seen at 12:06, 19 February in Courts and Tribunals Judiciary.