TGS


How to renew your driving licence online

[English] - [Cymraeg]

If you’re due to renew your driving licence, did you know our online service is the easiest, quickest and most convenient way to do it? You must renew your photocard licence every 10 years, so why not join the 2 million customers who chose to use our online service this year?

In this blog, we’ll outline the reasons why you should consider renewing your driving licence online, along with a helpful guide on how to use our online service.

Why should I renew my driving licence online?

There are many benefits to renewing your driving licence online.

Our online service is available 24 hours a day, 365 days a year and is easy to use. The service has been designed to guide customers through the application and takes only minutes to complete.

There’s no need to fill in any paper forms, you can even use your photo and signature straight from your valid UK passport, meaning less paperwork than ever.

It’s also quicker than applying by post. By applying online, you should receive your new licence within a week.

If that wasn’t enough, our online service is the cheapest way to renew your driving licence, costing only £14 to renew online, compared to £17 by post. Again, be careful to only use GOV.UK and not a third-party renewal website as they often charge a premium for passing a driver’s application to DVLA.

How do I renew my driving licence online?

 To renew online, you will need:

a valid UK passport to be a resident of Great Britain - there’s a different service in Northern Ireland to pay £14 by MasterCard, Visa, Electron or Delta debit or credit card (there’s no fee if you’re over 70 or have a medical short period licence) addresses of where you’ve lived over the last 3 years your current driving licence (if you do not have your licence you must say why in your application) your National Insurance number (if you know it) to not be disqualified from driving

Once you’ve got everything you need, just:

Visit Renew your driving licence - GOV.UK (www.gov.uk) or go to Adnewyddu eich trwydded yrru - GOV.UK (www.gov.uk) to use our Welsh services. Read the information on the page and click ‘Start now’. Complete each stage of the application process – reading the information on every page and filling in your details where required. Check your details are correct and click ‘Submit now’.

Once you’ve completed your application, you will receive an email to confirm it has been submitted. Make a note of your application reference number, which you can use to track the progress of your application online.

Remember, you must send your old photocard licence back to us once you get your new licence. The address will be provided on completion of your application.

What our service users say

 Here are some of the comments from customers who’ve used our online renewal service:

“I used the online service and found it very easy, I’ll definitely use it again in the future.”

“It's a better, quicker and cheaper way to apply.”

So, if you’re due to renew your driving licence, why not try our online service? It’s easier, quicker, cheaper and completely secure on GOV.UK.

We have many online services available on GOV.UK. For the latest information about our services, sign up to our email alerts. You can also join our online research panel to help us improve our services.

Follow DVLA on Twitterfollow us on Facebook and connect with us on LinkedIn. You can also subscribe to our Inside DVLA blog.

[English] - [Cymraeg]

Sut i adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein

Os ydych chi i fod i adnewyddu eich trwydded yrru, a wyddech chi mai ein gwasanaeth ar-lein yw'r ffordd hawsaf, gyflymaf a mwyaf cyfleus i'w wneud? Mae’n rhaid ichi adnewyddu eich trwydded cerdyn-llun bob 10 mlynedd, felly beth am ymuno â’r 2 filiwn o gwsmeriaid a ddewisodd ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein eleni?

Yn y blog hwn, byddwn yn amlinellu’r rhesymau pam y dylech ystyried adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein, ynghyd â chanllaw defnyddiol ar sut i ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.

Pam ddylwn i adnewyddu fy nhrwydded yrru ar-lein?

Mae llawer o fanteision i adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein.

Mae ein gwasanaeth ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ac mae'n hawdd ei ddefnyddio. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i arwain cwsmeriaid trwy'r cais ac mae'n cymryd munudau yn unig i'w gwblhau.

Nid oes angen llenwi unrhyw ffurflenni papur, gallwch hyd yn oed ddefnyddio’ch ffotograff a llofnod yn syth o'ch pasbort y DU dilys, sy'n golygu llai o waith papur nag erioed.

Mae hefyd yn gyflymach na gwneud cais drwy'r post. Drwy wneud cais ar-lein, dylech dderbyn eich trwydded newydd o fewn wythnos.

Os nad oedd hynny’n ddigon, ein gwasanaeth ar-lein yw’r ffordd rataf i adnewyddu eich trwydded yrru, gan gostio dim ond £14 i adnewyddu ar-lein, o’i gymharu â £17 drwy’r post. Unwaith eto, byddwch yn ofalus i ddefnyddio GOV.UK yn unig ac nid gwefan adnewyddu trydydd parti gan eu bod yn aml yn codi premiwm am drosglwyddo cais gyrrwr i DVLA.

Sut mae adnewyddu fy nhrwydded yrru ar-lein?

I adnewyddu ar-lein, bydd angen:

pasbort y DU dilys bod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr - mae gwasanaeth gwahanol yng Ngogledd Iwerddon talu £14 gyda cherdyn debyd neu gredyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta (nid oes ffi os ydych dros 70 oed neu os oes gennych drwydded feddygol cyfnod byr) cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf eich trwydded yrru gyfredol (os nad oes gennych eich trwydded rhaid ichi ddweud pam yn eich cais) eich rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ei wybod) peidio â bod wedi’ch gwahardd rhag gyrru

Unwaith y bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch, mae dim ond angen gwneud y canlynol:

Mynd i Adnewyddu eich trwydded yrru - GOV.UK (www.gov.uk) neu fynd i Renew your driving licence - GOV.UK (www.gov.uk)i ddefnyddio ein gwasanaethau Saesneg. Darllen y wybodaeth ar y dudalen a chlicio ar ‘Dechrau Nawr’. Cwblhau bob cam o'r broses ymgeisio – gan ddarllen y wybodaeth ar bob tudalen a llenwi’ch manylion lle bo angen. Gwirio bod eich manylion yn gywir a chlicio ar ‘Cyflwyno nawr’

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’ch cais, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau ei fod wedi'i gyflwyno. Gwnewch nodyn o gyfeirnod eich cais, y gallwch ei ddefnyddio i olrhain cynnydd eich cais ar-lein.

Cofiwch, rhaid ichi anfon eich hen drwydded cerdyn-llun yn ôl atom unwaith y byddwch yn cael eich trwydded newydd. Rhoddir y cyfeiriad ar ôl cwblhau eich cais.

Beth mae defnyddwyr ein gwasanaethau yn ei ddweud

Dyma rai o’r sylwadau gan gwsmeriaid sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth adnewyddu ar-lein:

“Defnyddiais y gwasanaeth ar-lein ac roedd yn hawdd iawn, byddaf yn bendant yn ei ddefnyddio eto yn y dyfodol.”

“Mae’n ffordd well, cyflymach a rhatach o wneud cais.”

Felly, os ydych chi ar fin adnewyddu eich trwydded yrru, beth am roi cynnig ar ein gwasanaeth ar-lein? Mae’n haws, yn gyflymach, yn rhatach ac yn gwbl ddiogel ar GOV.UK.

Mae gennym lawer o wasanaethau ar-lein ar gael ar GOV.UK. Am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ein gwasanaethau, cofrestrwch ar gyfer ein rhybuddion e-bost. Gallwch hefyd ymuno â'n panel ymchwil ar-lein i'n helpu i wella ein gwasanaethau.

Dilynwch DVLA ar Twitterdilynwch ni ar Facebook a chysylltwch â ni ar LinkedIn. Hefyd gallwch danysgrifio i’n blog Inside DVLA.

https://dvladigital.blog.gov.uk/2022/12/13/how-to-renew-your-driving-licence-online/

seen at 18:38, 3 February in DVLA digital services.
Email this to a friend.